Ar ddydd Mawrth, Tachwedd 27ain, rydym ni, Cyngor Ysgol Plas Coch, yn cyflwyno gwasanaeth i’r ysgol gyfan. Yn ein gwasanaeth rydym am ddathlu bod pawb yn wahanol ac am bwysleisio’r pwysigrwydd o barchu gwahaniaeth.
Er mwyn ein helpu ni yn y gwasanaeth, rydym yn gofyn i’r holl ddisgyblion ddod i’r ysgol Dydd Mawrth, Tachwedd 27ain yn gwisgo sanau od! Maent dal angen gwisgo eu gwisg ysgol ond gyda sanau od! Diolch am eich cyd-weithrediad.













































