Mae Chwefror 8fed yn #DyddMiwsigCymru. Un o’n targedau Siarter Iaith eleni yw hybu cerddoriaeth Gymraeg felly mae Llysgenhadon Iaith yr ysgol yn brysur yn paratoi ar gyfer y diwrnod. Mae’r Llysgenhadon wedi bod yn cyd-weithio ag Owain Williams o’r Urdd ar brosiect #DyddMiwsigCymru. Mae Ows wedi llunio rhestr fer o ganeuon Cymraeg ac mae’r Llysgenhadon yn awyddus i ddarganfod pa gân yw hoff gân y disgyblion. Oes modd i chi chwarae’r caneuon yn eich cartref fel bod ein disgyblion yn cael digon o gyfle i’w clywed os gwelwch yn dda? Bydd cyfle i bob un disgybl bleidleisio cyn #DyddMiwsigCymru. Mae posib gwrando ar y caneuon trwy ddefnyddio’r côd QR isod neu trwy ddilyn y ddolen. Diolch yn fawr.
February 8th is #DyddMiwsigCymru (Welsh Language Music Day). One of our Welsh Language Charter targets this year is to promote Welsh language music so the school Language Ambassadors are busy preparing for the day. The Ambassadors have been working with Owain Williams from the Urdd on a #DyddMiwsigCymru project. Ows has a playlist of Welsh songs and the Ambassadors are eager to find out which song is the pupil’s favourite. Could you please play the songs at home so that our pupils can get to know them? Each pupil will vote for his or her favourite song before #DyddMiwsigCymru. It is possible to listen to the songs by using the QR code below or by following the link. Thank you very much.