Oherwydd damwain car ar gyffordd Ffordd Stansty a Ffordd Plas Coch y tu allan i’r ysgol, sy’n dal i gael ei delio efo hi a sydd wedi cau’r ffordd, rydym wedi derbyn cyngor gan y Gwasanaethau Brys i ofyn i rieni ddod i gasglu eu plant yn raddol o’r ysgol prynhawn yma, felly gallwch ddod i nol eich plentyn o nawr ymlaen o’r brif fynedfa os ydech yn gallu. Mae hyn er mwyn osgoi gormod o draffig ar ddiwedd y diwrnod ysgol. Bydd rhaid i’r rheiny sy’n teithio mewn car ddod i lawr Ffordd Stansty gan fod Ffordd Plas Coch ar gau.
Does neb, gan gynnwys rheiny a bathodyn glas, i barcio ym maes parcio yr ysgol os gwelwch yn dda ond gallwch ei ddefnyddio i droi rownd (gan ddefnyddio’r giatiau mewn ac allan cywir) i fynd nol fyny Ffordd Stansty yn lle gorfod gwneud hynny ar y ffordd tu allan.
Gall unrhyw ddisgyblion sydd wedi archebu lle yn y Clwb Ar Ol Ysgol aros i’r clwb, ond ni fedrwn dderbyn unrhyw ddisgyblion eraill.
Due to a car accident outside the school on the junction of Plas Coch Road and Stansty Road, which is still being dealt with and has resulted in a road closure, we have been advised by the Emergency Services to ask parents to come and pick children up from the school gradually from now on, if you are able to, from the main entrance. This is to avoid too much traffic building up by the school at the end of the day. Those arriving by car will need to come down Stansty Road as Plas Coch Road is closed.
For today, no one, including those with a blue badge is to park in the school car park please, but you can use it to turn around (using the correct gates to drive in and out) to drive back up Stansty Road instead of turning around in the middle of the road outside.
Any pupils booked into the After School Club can still attend the club but we aren’t able to accept any more pupils.
Diolch am eich cydweithrediad / Thank you for your cooperation









