Gala Nofio Cenedlaethol yr Urdd / Urdd National Swimming Gala

Llongyfarchiadau i’r criw arbennig yma am gynrychioli’r ysgol a’r rhanbarth yng Ngala Nofio Cenedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd Dydd Sadwrn.  Roedd hi’n ddiwrnod llwyddiannus i’r ysgol gyda’r criw yn ennill y fedal efydd yn y gystadleuaeth Cyfnewid Cymysg Rhydd Bl. 5-6.  Yn ogystal, daeth Gethin yn drydydd yn y gystadleuaeth Amrywiol Unigol i fechgyn Bl. 5-6 a’r gystadleuaeth Broga 50m i fechgyn Bl. 5-6.  Da iawn yn wir i’r pedwar am roi o’u gorau ym mhob un ras.  Diolch i’r plant am eu hymddygiad a’u hymdrech, i’w teuluoedd am gefnogi ac i Miss Mostyn am ei threfniadau a’i chefnogaeth.

Congratulations to some of our swimming squad for representing the school and the region at the Urdd National Swimming Gala in Cardiff on Saturday.  It was a successful day for the school with the Yr. 5-6  Mixed Freestyle Relay team winning the bronze medal.  Gethin also came third in the Boys Yr. 5-6 Individual Medley competition and the Boys Yr. 5-6 Breaststroke 50m competition.  The four gave their very best in every race.  Thanks to the children for their behaviour and effort, to their families for their support and to Miss Mostyn for managing the squad and her support.