Gemau Buarth gydag Ysgol y Rofft / Welsh Playground Games with The Rofft School

Braf oedd croesawu rhai o ddisgyblion a staff Ysgol y Rofft, Marford, i’r ysgol yn ystod amser cinio heddiw.  Roedd disgyblion Ysgol y Rofft eisiau dysgu Gemau Buarth Cymraeg i’w chwarae yn ystod amser chwarae; swydd ein Llysgenhadon Iaith oedd eu cyflwyno i gêm neu ddwy.  Roedd disgyblion y ddwy ysgol wedi mwyhau cymdeithasu a chwarae Gemau Buarth gyda’i gilydd.

Mwy/More

Sioe Mewn Cymeriad / In Character Show

Cafwyd cryn dipyn o hwyl yng nghwmni Tudur Phillips a’i sioe Mewn Cymeriad, ‘Roald Dahl’.  Yn y sioe, roedd disgyblion Blynyddoedd 3 a 4 wedi cyfarfod Alf – cymeriad lliwgar, diddorol, sy’n CARU darllen. Yn ei gôt amryliw unigryw, sy’n llond pocedi ar gyfer ei lyfrau, roedd Alf yn rhannu gyda’r plant ei gariad tuag at ddarllen, a datgelodd anturiaethau sy’n digwydd iddo pan mae’n dechrau darllen. Ei hoff awdur yn y byd yw Roald Dahl.

Mwy/More

Clwb pêl-rwyd / Netball Club

Mi fydd Clwb Pêl-rwyd yn ail gychwyn dydd Iau yma 10/01/19 yn neuadd yr ysgol ac yn gorffen am 4:30pm. Mae gennym gystadleuaeth pêl rwyd yr Urdd ar ddydd Mercher 16/01/19. Os ydy eich plentyn yn dymuno bod yn rhan o’rtîm mae’n hanfodol iddi/iddo ddod i’r ymarfer ar ôl ysgol dydd Iau yma.

Diolch yn fawr,

Miss Moreton

Mwy/More

Diolch / Thank you

Hoffai’r staff ddiolch yn fawr i bawb am y cardiau a’r anrhegion Nadolig, gwerthfawrogwn eich caredigrwydd.  Nadolig Llawen i bawb …

Mwy/More

Yfory / Tomorrow

Cofiwch fod hi’n ddiwrnod di-wisg ysgol yfory, beth am siwmper/dillad Nadoligaidd? Hefyd, gall plant Cyfnod Allweddol 2 (Blynyddoedd 3 i …

Mwy/More

Ymweld ag Ysgol y Rofft / A Visit to The Rofft School

Aeth aelodau Blwyddyn 6 y Cyngor Ysgol draw i Marford heddiw i ymweld ag Ysgol y Rofft. Pwrpas yr ymweliad oedd i rannu syniadau am sut i hyrwyddo iechyd a lles yn ein hysgolion. Un syniad mae aelodau Cyngor Ysgol Plas Coch yn awyddus i’w gyflwyno’n ôl yn yr ysgol ydy i ethol Llysgenhadon Lles er mwyn bod yn gyfrifol am ddatblygu’r maes pwysig yma o fywyd yr ysgol.

Mwy/More

Gwisgoedd Nadolig / Christmas Costumes

Diolch yn fawr i chi unwaith eto am eich cymorth gyda’r gwisgoedd ar gyfer y cyngherddau Nadolig eleni; roedd y plant yn edrych yn wych.  Mae’r staff wedi bod yn trafod ac yn meddwl y byddai’n syniad da cael stoc o wisgoedd yn yr ysgol ar gyfer y dyfodol.  Os oes gennych wisgoedd Nadoligaidd nad ydach chi eu hangen ac yn meddwl cael gwared, byddwn wrth ein bodd yn eu derbyn yn yr ysgol os gwelwch yn dda.  Diolch yn fawr iawn i chi am eich cydweithrediad.

Mwy/More