Mae toriad wedi bod i gyflenwad trydan rhannau o’r ysgol ychydig cyn 9:00am bore yma gan effeithio ymysg ardaloedd eraill yn yr adeilad, y gegin. Mae trydanwyr ar y safle ar hyn o bryd ond ni fydd y trydan yn ol ymlaen tan y prynhawn ‘ma ar y cynharaf.
Golyga hyn na fydd posib i’r gegin gynnig cinio poeth i’r disgyblion heddiw, felly maent wrthi ar hyn o bryd yn paratoi amrywiol frechadanau i’r oddeutu 200 sydd eisiau cinio ysgol heddiw.
Mae system ffon yr ysgol yn dal i weithio os oes angen i chi gysylltu efo ni.
There has been a power cut here shortly before 9:00am which is affecting parts of the school, including amongst other areas, the kitchen. There are electricians on site at the moment but it’s unlikely that the power will be back on until this afternoon.
This means that the kitchen will not be able to offer any hot meals for lunch, so the kitchen staff are currently preparing various sandwiches for the approximately 200 children that have ordered a school lunch today.
The phone system is working should you need to contact us.