Braf oedd croesawu Pudsey ac Aled Hughes o BBC Radio Cymru i’r ysgol y bore ‘ma. Daeth y ddau yma wedi i Ela o Flwyddyn 4 anfon e-bost at Aled Hughes yn ei wahodd i’r ysgol i gasglu pawennau llawen. Casglodd 333 Pawen Lawen gan blant yr ysgol fel rhan o’i ymgyrch BBC Plant Mewn Angen eleni. Mae mwy o wybodaeth am ei ymgyrch yma:
https://www.bbc.co.uk/programmes/p06p27b1
Diolch i Ela, Aled Hughes ac wrth gwrs, Pudsey.
Cofiwch fod y plant yn gallu cefnogi BBC Plant Mewn Angen yfory: