Aeth aelodau Blwyddyn 6 y Cyngor Ysgol draw i Marford heddiw i ymweld ag Ysgol y Rofft. Pwrpas yr ymweliad oedd i rannu syniadau am sut i hyrwyddo iechyd a lles yn ein hysgolion. Un syniad mae aelodau Cyngor Ysgol Plas Coch yn awyddus i’w gyflwyno’n ôl yn yr ysgol ydy i ethol Llysgenhadon Lles er mwyn bod yn gyfrifol am ddatblygu’r maes pwysig yma o fywyd yr ysgol.
Blwyddyn3/Year3
Diolch / Thank you
Hoffai’r staff ddiolch yn fawr i bawb am y cardiau a’r anrhegion Nadolig, gwerthfawrogwn eich caredigrwydd. Nadolig Llawen i bawb …
Ward Plant Ysbyty Maelor / Maelor Hospital Children’s Ward
Roedd Llysgenhadon Iaith Blynyddoedd 5 a 6 yr ysgol yn awyddus i gefnogi’r Gymraeg yn ein cymuned. Trwy gyd-weithio gyda’r Cyngor …
Yfory / Tomorrow
Cofiwch fod hi’n ddiwrnod di-wisg ysgol yfory, beth am siwmper/dillad Nadoligaidd? Hefyd, gall plant Cyfnod Allweddol 2 (Blynyddoedd 3 i …
Cylchlythyr / Newsletter
Cylchlythyr / Newsletter 20.12
Diwrnod di-wisg / Non uniform day
Fel sy’n arferol ar ddiwrnod olaf y tymor, bydd dydd Gwener yma, Rhagfyr 21ain yn ddiwrnod di-wisg yn yr ysgol. …
Ymweliad Cyfnod Allweddol 2 â Sw Caer / Key Stage 2’s visit to Chester Zoo
Cofiwch fod disgyblion Blynyddoedd 3 i 6 yn ymweld â Sw Caer yfory. Maent angen:
- pecyn bwyd a diod.
- gwisgo’r wisg ysgol.
- côt law.
Gwisgoedd Nadolig / Christmas Costumes
Diolch yn fawr i chi unwaith eto am eich cymorth gyda’r gwisgoedd ar gyfer y cyngherddau Nadolig eleni; roedd y plant yn edrych yn wych. Mae’r staff wedi bod yn trafod ac yn meddwl y byddai’n syniad da cael stoc o wisgoedd yn yr ysgol ar gyfer y dyfodol. Os oes gennych wisgoedd Nadoligaidd nad ydach chi eu hangen ac yn meddwl cael gwared, byddwn wrth ein bodd yn eu derbyn yn yr ysgol os gwelwch yn dda. Diolch yn fawr iawn i chi am eich cydweithrediad.
Cyngherddau Nadolig / Christmas Concerts
Gobeithio eich bod wedi mwynhau’r cyngherddau Nadolig eleni. Cafwyd 4 cyngerdd bendigedig gan ddechrau gyda chyfle i ddathlu’r Nadolig gyda’r Meithrin a Derbyn, ‘Cerdyn Nadolig’ gan Blynyddoedd 1 a 2, ‘Babwshca’ gan Flynyddoedd 3 a 4 a ‘Carol yr Anifeiliaid’ gan Flynyddoedd 5 a 6. Llongyfarchiadau i bob un disgybl am berfformio’n wych ac i’r staff am eu gwaith caled. Diolch i chi hefyd, yn deulu ac yn ffrindiau, am eich cymorth gyda’r gwisgoedd, am helpu’r plant i ddysgu geiriau ac am ddod i wylio a chefnogi.
Dim Adran yr Urdd Heno – No Adran yr Urdd Tonight
Neges gan Owain / A message from Owain:
Bore da,
‘Mond neges i ddweud bod yr Adran wedi’i ohirio heno gan ei fod hi’n gyfnod mor brysur gyda’r ‘Dolig!
Bydd yr Adran yn ail-ddechrau ar y 14eg o Ionawr – Y Fic, Wrecsam rhwng 4-5.30.
Diolch o flaen llaw a ‘Dolig Llawen!
Owain.
Parti Nadolig Bl.1 a 2 / Year 1 & 2 Christmas Party
Cynhelir parti Nadolig Blwyddyn 1 a 2 yfory (Dydd Mawrth, Rhagfyr 18fed). Caiff y plant wisgo dillad eu hunain i …
Disgo CRhA / PTA Disco
Nodyn i’ch hatgoffa am ddisgo’r CRhA nos fory (Mawrth) yn yr ysgol. Manylion ar y poster. A reminder about the …
Clwb Brecwast / Breakfast Club
Mae CBSW wedi hysbysu’r ysgol ddiwedd wythnos diwethaf na fydd y bwriad o godi tal o £1 am ddefnyddio Clwb …
Holiadur Siarter Iaith i Rieni / Welsh Language Charter Questionnaire for Parents
Mae Llysgenhadon Iaith yr ysgol wedi bod yn casglu syniadau er mwyn hybu’r iaith Gymraeg yn yr ysgol. Mae cydweithio agos rhwng y cartref a’r ysgol yn bwysig, felly, fel rhan o’u gwaith, maent yn awyddus i glywed barn y rhieni. Mae Llysgenhadon Blwyddyn 6 wedi llunio holiadur. A fyddech chi cystal ag ateb yr wyth cwestiwn byr trwy ddilyn y ddolen isod os gwelwch yn dda.
Holiadur Siarter Iaith i Rieni / Welsh Language Charter Questionnaire for Parents
Cyngerdd Nadolig Capel y Groes / A Christmas Concert at Capel y Groes
Cafwyd noson hyfryd heno mewn Cyngerdd Nadolig yng Nghapel y Groes. Braf oedd rhannu llwyfan gydag Ysgol Bodhyfryd a’r delynores a chantores dalentog, Gwenan Gibbard. Diolch yn fawr iawn i’n disgyblion am ganu’n ardderchog, i deulu a ffrindiau am eich cefnogaeth ac i Miss Elen Mostyn a Miss Bethan Morris am eu gwaith caled.
Sinema/Cinema
Os hoffwch i’ch plentyn fynd i’r sinema wythnos nesaf, a wnewch chi yrru’r arian i’r ysgol erbyn yfory os gwelwch …
Pencampwyr Pêl-droed / Football Champions
Llongyfarchiadau hefyd i dîm pêl-droed yr ysgol am ennill twrnament i ysgolion Cymraeg Wrecsam draw yn Ysgol Morgan Llwyd heddiw. Gwych bechgyn!
Pencampwyr Pêl-rwyd / Netball Champions
Llongyfarchiadau i dîm pêl-rwyd yr ysgol am ennill twrnament yn Ysgol Morgan Llwyd heddiw i ysgolion Cymraeg Wrecsam. Da iawn chi ferched!