Gobeithio eich bod wedi mwynhau’r cyngherddau Nadolig eleni. Cafwyd 4 cyngerdd bendigedig gan ddechrau gyda chyfle i ddathlu’r Nadolig gyda’r Meithrin a Derbyn, ‘Cerdyn Nadolig’ gan Blynyddoedd 1 a 2, ‘Babwshca’ gan Flynyddoedd 3 a 4 a ‘Carol yr Anifeiliaid’ gan Flynyddoedd 5 a 6. Llongyfarchiadau i bob un disgybl am berfformio’n wych ac i’r staff am eu gwaith caled. Diolch i chi hefyd, yn deulu ac yn ffrindiau, am eich cymorth gyda’r gwisgoedd, am helpu’r plant i ddysgu geiriau ac am ddod i wylio a chefnogi.We hope you enjoyed this year’s Christmas concerts. There were 4 wonderful concerts starting with a Christmas celebration with the Nursery and Reception, ‘Christmas Card’ from Years 1 and 2, ‘Babushka’ by Years 3 and 4 and ‘The Animal’s Carol’ by Years 5 a 6. Congratulations to the pupils for great performances and to the staff for their hard work. Thank you too, family and friends, for your help with the costumes, for helping the children to learn their lines and for coming to watch and support.