Eira / Snow

Mae’r ysgol ar agor ar hyn o bryd. Os bydd unrhyw newidiadau, byddwn yn eich hysbysu drwy’r app a thudalen …

Mwy/More

Dathlu Dydd Santes Dwynwen / Celebrating St. Dwynwen’s Day

Mae pawb wedi mwynhau dathlu Dydd Santes Dwynwen yn gwisgo coch neu binc heddiw’n Ysgol Plas Coch.  Diolch i Ddosbarth San Silyn am gyflwyno gwasanaeth am Santes Dwynwen ac i staff y gegin am baratoi bwyd arbennig.

Mwy/More

#DyddMiwsigCymru / Welsh Language Music Day

Mae Chwefror 8fed yn #DyddMiwsigCymru.  Un o’n targedau Siarter Iaith eleni yw hybu cerddoriaeth Gymraeg felly mae Llysgenhadon Iaith yr ysgol yn brysur yn paratoi ar gyfer y diwrnod.  Mae’r Llysgenhadon wedi bod yn cyd-weithio ag Owain Williams o’r Urdd ar brosiect #DyddMiwsigCymru.  Mae Ows wedi llunio rhestr fer o ganeuon Cymraeg ac mae’r Llysgenhadon yn awyddus i ddarganfod pa gân yw hoff gân y disgyblion.  Oes modd i chi chwarae’r caneuon yn eich cartref fel bod ein disgyblion yn cael digon o gyfle i’w clywed os gwelwch yn dda?  Bydd cyfle i bob un disgybl bleidleisio cyn #DyddMiwsigCymru.  Mae posib gwrando ar y caneuon trwy ddefnyddio’r côd QR isod neu trwy ddilyn y ddolen. Diolch yn fawr.

Rhestr fer caneuon Cymraeg

Mwy/More

Testun Trafod yr Wythnos / Weekly Discussion Topic

Pob bore dydd Mawrth, bydd Testun Trafod yn cael ei gyhoeddi yn y gwasanaeth ysgol gyfan.  Testun penodol ydy hwn i annog y disgyblion i drafod gwahanol bynciau.  Bydd cyfle i’r plant drafod y testun yn y dosbarth, yn y neuadd amser cinio, ar y buarth amser chwarae ac o amgylch yr ysgol.  Mae croeso i chi drafod y testunau gyda’ch plentyn hefyd.  Mwynhewch!

Testun Trafod yr wythnos hon – Pe bai gen i dri dymuniad…

Mwy/More

Gemau Buarth gydag Ysgol y Rofft / Welsh Playground Games with The Rofft School

Braf oedd croesawu rhai o ddisgyblion a staff Ysgol y Rofft, Marford, i’r ysgol yn ystod amser cinio heddiw.  Roedd disgyblion Ysgol y Rofft eisiau dysgu Gemau Buarth Cymraeg i’w chwarae yn ystod amser chwarae; swydd ein Llysgenhadon Iaith oedd eu cyflwyno i gêm neu ddwy.  Roedd disgyblion y ddwy ysgol wedi mwyhau cymdeithasu a chwarae Gemau Buarth gyda’i gilydd.

Mwy/More

Sioe Mewn Cymeriad / In Character Show

Cafwyd cryn dipyn o hwyl yng nghwmni Tudur Phillips a’i sioe Mewn Cymeriad, ‘Roald Dahl’.  Yn y sioe, roedd disgyblion Blynyddoedd 3 a 4 wedi cyfarfod Alf – cymeriad lliwgar, diddorol, sy’n CARU darllen. Yn ei gôt amryliw unigryw, sy’n llond pocedi ar gyfer ei lyfrau, roedd Alf yn rhannu gyda’r plant ei gariad tuag at ddarllen, a datgelodd anturiaethau sy’n digwydd iddo pan mae’n dechrau darllen. Ei hoff awdur yn y byd yw Roald Dahl.

Mwy/More

Clwb pêl-rwyd / Netball Club

Mi fydd Clwb Pêl-rwyd yn ail gychwyn dydd Iau yma 10/01/19 yn neuadd yr ysgol ac yn gorffen am 4:30pm. Mae gennym gystadleuaeth pêl rwyd yr Urdd ar ddydd Mercher 16/01/19. Os ydy eich plentyn yn dymuno bod yn rhan o’rtîm mae’n hanfodol iddi/iddo ddod i’r ymarfer ar ôl ysgol dydd Iau yma.

Diolch yn fawr,

Miss Moreton

Mwy/More