Eisteddfod yr Urdd / Urdd Eisteddfod

I sylw rhai sy’n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd dydd Sadwrn/ FAO of those competing at the Urdd Eisteddfod on Saturday

Mae’r wybodaeth isod wedi cyrraedd gan yr Urdd yn hwyr prynhawn yma / The following information has arrived from the Urdd late this afternoon:

 

“Annwyl Riant / Gwarchodwr,

Dyma gadarnhau trefniadau ar gyfer Eisteddfod Rhanbarth Fflint a Wrecsam a gynhelir yn Ysgol Bro Alun ar ddydd Sadwrn, Mawrth 26ain:

Byddwn yn gweithredu system unffordd ar y diwrnod ac yn caniatáu mynediad i’r ystafelloedd berfformio drwy’r drysau allanol yn unig (llun atodol). Hoffem hefyd bwysleisio mai un person yn unig fydd yn cael gwylio’r perfformiad ar ran pob cystadleuydd ac anogir i bawb wisgo gorchudd wyneb. Bydd pob cystadleuydd wedi derbyn slot amser penodol cyn dydd Sadwrn ac mae’n rhaid glynu at yr amseroedd yma.

Bydd lluniaeth ysgafn ar werth drwy garedigrwydd CRhA Ysgol Bro Alun.

Diolch yn fawr am eich cydweithrediad a phob hwyl gyda’r cystadlu,

 

Dear Parent / Guardian,

This is to confirm arrangements for the Flint and Wrexham Regional Eisteddfod which is to be held at Ysgol Bro Alun on Saturday March 26th:

 A one-way system will be in place at the school and access to the performance rooms will be via external doors only (as attached). We would also like to emphasize that only one person will be allowed to attend with each competitor and all attendees are to wear a face mask. All competitors will have received a time slot before Saturday and these times must be adhered to.

There will be refreshments available to buy courtesy of Ysgol Bro Alun’s PTA.

Diolch yn fawr for your continued support and best of luck on Saturday.”