Pob hwyl i rai o aelodau carfan nofio’r ysgol sy’n cynrychioli’r rhanbarth yfory yng Ngala Nofio Cenedlaethol yr Urdd. Bydd nofio a chystadlu ym Mhwll Rhyngwladol Caerdydd yn brofiad a hanner i’r plant. Siwrne saff i chi. Ewch amdani!
Meithrin/Nursery
Dathlu Dydd Santes Dwynwen / Celebrating St. Dwynwen’s Day
Mae pawb wedi mwynhau dathlu Dydd Santes Dwynwen yn gwisgo coch neu binc heddiw’n Ysgol Plas Coch. Diolch i Ddosbarth San Silyn am gyflwyno gwasanaeth am Santes Dwynwen ac i staff y gegin am baratoi bwyd arbennig.
#DyddMiwsigCymru / Welsh Language Music Day
Mae Chwefror 8fed yn #DyddMiwsigCymru. Un o’n targedau Siarter Iaith eleni yw hybu cerddoriaeth Gymraeg felly mae Llysgenhadon Iaith yr ysgol yn brysur yn paratoi ar gyfer y diwrnod. Mae’r Llysgenhadon wedi bod yn cyd-weithio ag Owain Williams o’r Urdd ar brosiect #DyddMiwsigCymru. Mae Ows wedi llunio rhestr fer o ganeuon Cymraeg ac mae’r Llysgenhadon yn awyddus i ddarganfod pa gân yw hoff gân y disgyblion. Oes modd i chi chwarae’r caneuon yn eich cartref fel bod ein disgyblion yn cael digon o gyfle i’w clywed os gwelwch yn dda? Bydd cyfle i bob un disgybl bleidleisio cyn #DyddMiwsigCymru. Mae posib gwrando ar y caneuon trwy ddefnyddio’r côd QR isod neu trwy ddilyn y ddolen. Diolch yn fawr.
Dydd Santes Dwynwen / St. Dwynwen’s Day
Cofiwch fod y disgyblion yn cael gwisgo dillad coch neu binc i’r ysgol yfory fel rhan o’n dathliadau Dydd Santes Dwynwen.
Testun Trafod yr Wythnos / Weekly Discussion Topic
Pob bore dydd Mawrth, bydd Testun Trafod yn cael ei gyhoeddi yn y gwasanaeth ysgol gyfan. Testun penodol ydy hwn i annog y disgyblion i drafod gwahanol bynciau. Bydd cyfle i’r plant drafod y testun yn y dosbarth, yn y neuadd amser cinio, ar y buarth amser chwarae ac o amgylch yr ysgol. Mae croeso i chi drafod y testunau gyda’ch plentyn hefyd. Mwynhewch!
Testun Trafod yr wythnos hon – Pe bai gen i dri dymuniad…
Dydd Santes Dwynwen – Gwisgo coch neu binc / St. Dwynwen’s Day – Wear red or pink to school
Mae Dydd Gwener yma, Ionawr 25ain, yn Ddydd Santes Dwynwen. Santes Dwynwen yw santes y cariadon yng Nghymru. Byddwn yn dathlu’r diwrnod yn yr ysgol a chaiff y disgyblion ddod i’r ysgol mewn dillad coch neu binc ar y diwrnod – nid oes angen talu am gael gwneud hynny. Mae’n gyfle i ni godi ymwybyddiaeth ein disgyblion o’u hetifeddiaeth Gymreig.
Gemau Buarth gydag Ysgol y Rofft / Welsh Playground Games with The Rofft School
Braf oedd croesawu rhai o ddisgyblion a staff Ysgol y Rofft, Marford, i’r ysgol yn ystod amser cinio heddiw. Roedd disgyblion Ysgol y Rofft eisiau dysgu Gemau Buarth Cymraeg i’w chwarae yn ystod amser chwarae; swydd ein Llysgenhadon Iaith oedd eu cyflwyno i gêm neu ddwy. Roedd disgyblion y ddwy ysgol wedi mwyhau cymdeithasu a chwarae Gemau Buarth gyda’i gilydd.
Eira / Snow
Llythyr Eira Letter re snow
Sioe Mewn Cymeriad / In Character Show
Cafwyd cryn dipyn o hwyl yng nghwmni Tudur Phillips a’i sioe Mewn Cymeriad, ‘Roald Dahl’. Yn y sioe, roedd disgyblion Blynyddoedd 3 a 4 wedi cyfarfod Alf – cymeriad lliwgar, diddorol, sy’n CARU darllen. Yn ei gôt amryliw unigryw, sy’n llond pocedi ar gyfer ei lyfrau, roedd Alf yn rhannu gyda’r plant ei gariad tuag at ddarllen, a datgelodd anturiaethau sy’n digwydd iddo pan mae’n dechrau darllen. Ei hoff awdur yn y byd yw Roald Dahl.
Cystadleuaeth Pêl-rwyd / Netball Competition
Llongyfarchiadau i rai o’n disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 am gynrychioli’r ysgol yng nghystadleuaeth pêl-rwyd Urdd FfaW heddiw.
Parcio / Parking
Parcio – Parking 15.1.19
Clwb pêl-rwyd / Netball Club
Mi fydd Clwb Pêl-rwyd yn ail gychwyn dydd Iau yma 10/01/19 yn neuadd yr ysgol ac yn gorffen am 4:30pm. Mae gennym gystadleuaeth pêl rwyd yr Urdd ar ddydd Mercher 16/01/19. Os ydy eich plentyn yn dymuno bod yn rhan o’rtîm mae’n hanfodol iddi/iddo ddod i’r ymarfer ar ôl ysgol dydd Iau yma.
Diolch yn fawr,
Miss Moreton
Ceisiadau Meithrin Medi 2019 / September 2019 Nursery Applications
Mae’r cyfnod gwneud cais ar gyfer cael lle yn nosbarth Meithrin yr ysgol ym Medi 2019 wedi agor. Gellir gwneud …
Diolch / Thank you
Hoffai’r staff ddiolch yn fawr i bawb am y cardiau a’r anrhegion Nadolig, gwerthfawrogwn eich caredigrwydd. Nadolig Llawen i bawb …
Ward Plant Ysbyty Maelor / Maelor Hospital Children’s Ward
Roedd Llysgenhadon Iaith Blynyddoedd 5 a 6 yr ysgol yn awyddus i gefnogi’r Gymraeg yn ein cymuned. Trwy gyd-weithio gyda’r Cyngor …
Yfory / Tomorrow
Cofiwch fod hi’n ddiwrnod di-wisg ysgol yfory, beth am siwmper/dillad Nadoligaidd? Hefyd, gall plant Cyfnod Allweddol 2 (Blynyddoedd 3 i …
Cylchlythyr / Newsletter
Cylchlythyr / Newsletter 20.12
Diwrnod di-wisg / Non uniform day
Fel sy’n arferol ar ddiwrnod olaf y tymor, bydd dydd Gwener yma, Rhagfyr 21ain yn ddiwrnod di-wisg yn yr ysgol. …