Efallai i chi weld y rhif 100 ar y ffens y tu allan i’r ysgol. Dyma waith Eco-Bwyllgor yr ysgol. Mae’r disgyblion wedi defnyddio hen boteli plastig er mwyn gwneud pabïau coch a’u gosod i ffurfio’r rhif 100. Dyma oedd y disgyblion eisiau gwneud er mwyn cofio’r miloedd oedd wedi dioddef yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a ddaeth i ben 100 mlynedd yn ôl. Cynhaliodd y disgyblion wasanaeth y prynhawn ‘ma i ddangos eu gwaith ac i gofio’r bobl oedd wedi dioddef yn ystod y Rhyfel Mawr ac mewn rhyfeloedd eraill ers hynny.
Bocsys Esgidiau Teams4U / Teams4U Shoebox Appeal
Nodyn i’ch hatgoffa i ddychwelyd y bocsys esgidiau Teams4U i’r ysgol erbyn Dydd Llun nesaf, Tachwedd 19eg. Os oes angen …




















