Mabolgampau’r Urdd Athletics Competition

Bu nifer o ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn cynrychioli’r ysgol yn Mabolgampau’r Urdd yng Nghei Connah.  Pob hwyl i bob un sy’n cynrychioli’r rhanbarth draw ym Mharc Eirias yr wythnos nesaf.

Mwy/More

Wythnos Cymru Cŵl Week (04/06/2018 – 08/06/2018)

Mae’r wythnos gyntaf ar ôl gwyliau’r hanner tymor yn Wythnos Cymru Cŵl yn yr ysgol (04/06/2018 – 08/06/2018).  Mae amserlen Cyfnod Allweddol 2 ar gael isod:

Amserlen Wythnos Cymru Cŵl (C.A.2)

Mae disgyblion Cyfnod Allweddol 2 angen dod â’u dillad addysg gorfforol ar ddydd Iau, Mehefin 7fed.

Mae croeso i’r disgyblion i gyd wisgo rhywbeth coch, gwyn neu wyrdd ar ddydd Gwener, Mehefin 8fed.

Mwy/More

Marathon Mai / May Marathon

Rydym yn falch iawn o’n plant yma yn Ysgol Plas Coch.  Yn ystod mis Mai mae’r plant wedi bod yn cerdded neu’n rhedeg yn ystod ein gweithgaredd noddedig ‘Marathon Mai’.  Mae plant y Meithrin a’r Derbyn wedi cerdded cyfanswm o 10km, plant Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 wedi cerdded / rhedeg cyfanswm o 13.1 milltir (hanner marathon) a phlant Blynyddoedd 3, 4, 5 a 6 wedi cerdded / rhedeg cyfanswm o 26.2 milltir (marathon). Nid yn unig yw hyn wedi gwella ffitrwydd a hybu cadw’n iach ond hefyd yn codi arian i ni brynu offer TGCh.

Os ydach chi angen mwy o ffurflenni noddi mae’n bosib eu lawrlwytho isod:

Ffurflen noddi 10Km (Meithrin a Derbyn)

Ffurflen Noddi Hanner Marathon (Bl. 1 a 2)

Ffurflen Noddi Marathon (Bl. 3, 4, 5 a 6)

Mae angen cwblhau’r ffurflen noddi a dychwelyd y ffurflen a’r arian i’r ysgol erbyn Mehefin 8fed os gwelwch yn dda. Cofiwch fod gwobr arbennig i’r plentyn sy’n codi’r mwyaf o arian yn y Meithrin a Derbyn, Blynyddoedd 1 a 2, Blynyddoedd 3 a 4 a Blynyddoedd 5 a 6.

Mwy/More

Cystadleuaeth Wythnos Cymru Cŵl / ‘Cymru Cŵl’ Week Competition

Mae’r wythnos gyntaf ar ôl gwyliau’r hanner tymor am fod yn Wythnos Cymru Cŵl (4/6/18 – 8/6/18) yn yr ysgol.  Mae amrywiaeth o weithgareddau wedi eu trefnu ar gyfer y disgyblion yn cynnwys gweithdai gyda Daniel Lloyd.

Mae Daniel Lloyd wedi cytuno i feirniadu cystadleuaeth arbennig yn ogystal â chynnig gwobr i’r enillydd, copi o’i albwm ‘Goleuadau Llundain’ wedi ei arwyddo.

Os am y cyfle i ennill yr albwm mae angen dylunio clawr newydd i’r albwm.  Mae’n bosib lawrlwytho’r daflen i gystadlu isod:

Cystadleuaeth Daniel Lloyd

Dewch â’ch dyluniad i’r ysgol erbyn Dydd Mawrth, Mehefin 5ed.

Mwy/More

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd National Eisteddfod

Pob hwyl i Gethin o Flwyddyn 5 sy’n cynrychioli’r ysgol yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed ar faes y Sioe, Llanelwedd wythnos nesaf.  Bydd Gethin yn cystadlu yn y gystadleuaeth unawd piano ar ddydd Llun a’r Alaw Werin ddydd Mawrth.  Pob hwyl hefyd i Miss Saran Lynch a Mr Iestyn Jones sy’n cystadlu ag Aelwyd Llangwm ddiwedd yr wythnos.

Mwy/More