Rydym yn falch iawn o’n plant yma yn Ysgol Plas Coch. Yn ystod mis Mai mae’r plant wedi bod yn cerdded neu’n rhedeg yn ystod ein gweithgaredd noddedig ‘Marathon Mai’. Mae plant y Meithrin a’r Derbyn wedi cerdded cyfanswm o 10km, plant Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 wedi cerdded / rhedeg cyfanswm o 13.1 milltir (hanner marathon) a phlant Blynyddoedd 3, 4, 5 a 6 wedi cerdded / rhedeg cyfanswm o 26.2 milltir (marathon). Nid yn unig yw hyn wedi gwella ffitrwydd a hybu cadw’n iach ond hefyd yn codi arian i ni brynu offer TGCh.
Os ydach chi angen mwy o ffurflenni noddi mae’n bosib eu lawrlwytho isod:
Ffurflen noddi 10Km (Meithrin a Derbyn)
Ffurflen Noddi Hanner Marathon (Bl. 1 a 2)
Ffurflen Noddi Marathon (Bl. 3, 4, 5 a 6)
Mae angen cwblhau’r ffurflen noddi a dychwelyd y ffurflen a’r arian i’r ysgol erbyn Mehefin 8fed os gwelwch yn dda. Cofiwch fod gwobr arbennig i’r plentyn sy’n codi’r mwyaf o arian yn y Meithrin a Derbyn, Blynyddoedd 1 a 2, Blynyddoedd 3 a 4 a Blynyddoedd 5 a 6.
We’re very proud of our children here at Ysgol Plas Coch. During the month of May the children have been walking or running as part of our sponsored event, ‘May Marathon’. The Nursery and Reception children have walked a total of 10km, Years 1 and 2 children have walked a total of 13.1 miles (half marathon) and Years 3, 4, 5 and 6 children have walked / ran a total of 26.2 miles (marathon). Not only has this improved their fitness and promoted healthy living but it will also raise money for us to buy ICT equipment.
If you need extra sponsor forms you can download them below:
10Km Sponsor Form (Nursery and Reception)
Half Marathon Sponsor Form (Yrs. 1 & 2)
Marathon Sponsor Forms (Yrs. 3, 4, 5 & 6)
We’re kindly asking for the completed sponsor form and money to be returned to school by June 8th please. Remember that there is be a special prize for the child that raises the most money in the Nursery and Reception, Years 1 and 2, Years 3 and 4 and Years 5 and 6.