Llongyfarchiadau mawr i un o’n plant Blwyddyn 6 am gwblhau 10km yn ystod oriau mân y bore er mwyn codi arian i’r elusen arbennig Tŷ’r Eos.
Clwb ar ol ysgol 29.6.18 After School Club
Canslo clwb
Canslo clwb
Llongyfarchiadau mawr i un o’n plant Blwyddyn 6 am gwblhau 10km yn ystod oriau mân y bore er mwyn codi arian i’r elusen arbennig Tŷ’r Eos.
Anhygoel – mae’r disgyblion wedi codi £4968.61 mewn arian noddi! Diolch o galon i’r rhai sydd wedi dychwelyd y ffurflenni noddi a’r arian i’r ysgol. Os oes gennych arian ychwanegol, gofynnwn yn garedig i chi anfon yr arian i’r ysgol erbyn dydd Llun, Mehefin 25ain, fel ein bod yn gallu cyhoeddi enillydd pob uned yn ein gwasanaeth ysgol gyfan fore Mawrth. Rydym yn hynod o ddiolchgar am eich caredigrwydd a’ch cefnogaeth,
Wel am fore o hwyl yng nghwmni Marc Griffiths a Kevin (BGT, 2012). Er yr holl chwerthin, roedd gan Marc a Kevin neges bwysig dros ben, pwysigrwydd gwneud penderfyniadau da.
Ni fydd hi’n bosib cynnal y clwb pêl-rwyd heno nac am weddill y flwyddyn. Ymddiheuriadau am hyn a diolch i’r staff …
Bu nifer o ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn cynrychioli’r ysgol yn Mabolgampau’r Urdd yng Nghei Connah. Pob hwyl i bob un sy’n cynrychioli’r rhanbarth draw ym Mharc Eirias yr wythnos nesaf.
Ni fydd clwb pêl-rwyd ar ôl ysgol yfory (14/06/2018). There won’t be netball club after school tomorrow (14/06/2018).
Gwisg Ysgol – llythyr Forrester Sports
Ymarfer frys i dim athletau
Gwenllian – ymweliad Little Moreton Hall 11.7.18 Glyndwr – ymweliad Little Moreton Hall 12.7.18 Llywelyn – ymweliad Little Moreton Hall …
Os nad ydych wedi gwneud yn barod, mae angen dychwelyd archeb lluniau i’r ysgol erbyn Dydd Mawrth, 12fed o Fehefin …
Dyma enillydd ein Cystadleuaeth Wythnos Cymru Cŵl. Llongyfarchiadau mawr! Roedd Daniel Lloyd wedi gwirioni gymaint â’r holl waith aeth â chopi o bob un er mwyn dangos i aelodau’r band, Mr Pinc!
Nos Iau 7fed Mehefin 6:00 – 7:30 yn neuadd yr ysgol Thursday 7th June 6:00 – 7:30 in the school …
Mae’r wythnos gyntaf ar ôl gwyliau’r hanner tymor yn Wythnos Cymru Cŵl yn yr ysgol (04/06/2018 – 08/06/2018). Mae amserlen Cyfnod Allweddol 2 ar gael isod:
Amserlen Wythnos Cymru Cŵl (C.A.2)
Mae disgyblion Cyfnod Allweddol 2 angen dod â’u dillad addysg gorfforol ar ddydd Iau, Mehefin 7fed.
Mae croeso i’r disgyblion i gyd wisgo rhywbeth coch, gwyn neu wyrdd ar ddydd Gwener, Mehefin 8fed.
Rydym yn falch iawn o’n plant yma yn Ysgol Plas Coch. Yn ystod mis Mai mae’r plant wedi bod yn cerdded neu’n rhedeg yn ystod ein gweithgaredd noddedig ‘Marathon Mai’. Mae plant y Meithrin a’r Derbyn wedi cerdded cyfanswm o 10km, plant Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 wedi cerdded / rhedeg cyfanswm o 13.1 milltir (hanner marathon) a phlant Blynyddoedd 3, 4, 5 a 6 wedi cerdded / rhedeg cyfanswm o 26.2 milltir (marathon). Nid yn unig yw hyn wedi gwella ffitrwydd a hybu cadw’n iach ond hefyd yn codi arian i ni brynu offer TGCh.
Os ydach chi angen mwy o ffurflenni noddi mae’n bosib eu lawrlwytho isod:
Ffurflen noddi 10Km (Meithrin a Derbyn)
Ffurflen Noddi Hanner Marathon (Bl. 1 a 2)
Ffurflen Noddi Marathon (Bl. 3, 4, 5 a 6)
Mae angen cwblhau’r ffurflen noddi a dychwelyd y ffurflen a’r arian i’r ysgol erbyn Mehefin 8fed os gwelwch yn dda. Cofiwch fod gwobr arbennig i’r plentyn sy’n codi’r mwyaf o arian yn y Meithrin a Derbyn, Blynyddoedd 1 a 2, Blynyddoedd 3 a 4 a Blynyddoedd 5 a 6.
Mae’r wythnos gyntaf ar ôl gwyliau’r hanner tymor am fod yn Wythnos Cymru Cŵl (4/6/18 – 8/6/18) yn yr ysgol. Mae amrywiaeth o weithgareddau wedi eu trefnu ar gyfer y disgyblion yn cynnwys gweithdai gyda Daniel Lloyd.
Mae Daniel Lloyd wedi cytuno i feirniadu cystadleuaeth arbennig yn ogystal â chynnig gwobr i’r enillydd, copi o’i albwm ‘Goleuadau Llundain’ wedi ei arwyddo.
Os am y cyfle i ennill yr albwm mae angen dylunio clawr newydd i’r albwm. Mae’n bosib lawrlwytho’r daflen i gystadlu isod:
Dewch â’ch dyluniad i’r ysgol erbyn Dydd Mawrth, Mehefin 5ed.
Pob hwyl i Gethin o Flwyddyn 5 sy’n cynrychioli’r ysgol yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed ar faes y Sioe, Llanelwedd wythnos nesaf. Bydd Gethin yn cystadlu yn y gystadleuaeth unawd piano ar ddydd Llun a’r Alaw Werin ddydd Mawrth. Pob hwyl hefyd i Miss Saran Lynch a Mr Iestyn Jones sy’n cystadlu ag Aelwyd Llangwm ddiwedd yr wythnos.
Efallai eich bod wedi gweld diffibrilydd ar wal y tu allan i’r ysgol. Menter rhwng yr ysgol a Chlwb Pêl-droed …