Mae plant Dosbarth Dyfrdwy wedi bod yn brysur yn gwneud gwaith cartref ffantastig am y Gofod dros y gwyliau. Diolch am yr holl waith caled a’r ymdrech.
Clwyd – Gymnasteg/Gymnastics 8.6.18
Clwyd – Gymnasteg 8.6.18
Clwyd – Gymnasteg 8.6.18
Mae plant Dosbarth Dyfrdwy wedi bod yn brysur yn gwneud gwaith cartref ffantastig am y Gofod dros y gwyliau. Diolch am yr holl waith caled a’r ymdrech.
Mae’r wythnos gyntaf ar ôl gwyliau’r hanner tymor yn Wythnos Cymru Cŵl yn yr ysgol (04/06/2018 – 08/06/2018). Mae amserlen Cyfnod Allweddol 2 ar gael isod:
Amserlen Wythnos Cymru Cŵl (C.A.2)
Mae disgyblion Cyfnod Allweddol 2 angen dod â’u dillad addysg gorfforol ar ddydd Iau, Mehefin 7fed.
Mae croeso i’r disgyblion i gyd wisgo rhywbeth coch, gwyn neu wyrdd ar ddydd Gwener, Mehefin 8fed.
Rydym yn falch iawn o’n plant yma yn Ysgol Plas Coch. Yn ystod mis Mai mae’r plant wedi bod yn cerdded neu’n rhedeg yn ystod ein gweithgaredd noddedig ‘Marathon Mai’. Mae plant y Meithrin a’r Derbyn wedi cerdded cyfanswm o 10km, plant Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 wedi cerdded / rhedeg cyfanswm o 13.1 milltir (hanner marathon) a phlant Blynyddoedd 3, 4, 5 a 6 wedi cerdded / rhedeg cyfanswm o 26.2 milltir (marathon). Nid yn unig yw hyn wedi gwella ffitrwydd a hybu cadw’n iach ond hefyd yn codi arian i ni brynu offer TGCh.
Os ydach chi angen mwy o ffurflenni noddi mae’n bosib eu lawrlwytho isod:
Ffurflen noddi 10Km (Meithrin a Derbyn)
Ffurflen Noddi Hanner Marathon (Bl. 1 a 2)
Ffurflen Noddi Marathon (Bl. 3, 4, 5 a 6)
Mae angen cwblhau’r ffurflen noddi a dychwelyd y ffurflen a’r arian i’r ysgol erbyn Mehefin 8fed os gwelwch yn dda. Cofiwch fod gwobr arbennig i’r plentyn sy’n codi’r mwyaf o arian yn y Meithrin a Derbyn, Blynyddoedd 1 a 2, Blynyddoedd 3 a 4 a Blynyddoedd 5 a 6.
Mae’r wythnos gyntaf ar ôl gwyliau’r hanner tymor am fod yn Wythnos Cymru Cŵl (4/6/18 – 8/6/18) yn yr ysgol. Mae amrywiaeth o weithgareddau wedi eu trefnu ar gyfer y disgyblion yn cynnwys gweithdai gyda Daniel Lloyd.
Mae Daniel Lloyd wedi cytuno i feirniadu cystadleuaeth arbennig yn ogystal â chynnig gwobr i’r enillydd, copi o’i albwm ‘Goleuadau Llundain’ wedi ei arwyddo.
Os am y cyfle i ennill yr albwm mae angen dylunio clawr newydd i’r albwm. Mae’n bosib lawrlwytho’r daflen i gystadlu isod:
Dewch â’ch dyluniad i’r ysgol erbyn Dydd Mawrth, Mehefin 5ed.
Pob hwyl i Gethin o Flwyddyn 5 sy’n cynrychioli’r ysgol yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed ar faes y Sioe, Llanelwedd wythnos nesaf. Bydd Gethin yn cystadlu yn y gystadleuaeth unawd piano ar ddydd Llun a’r Alaw Werin ddydd Mawrth. Pob hwyl hefyd i Miss Saran Lynch a Mr Iestyn Jones sy’n cystadlu ag Aelwyd Llangwm ddiwedd yr wythnos.
Efallai eich bod wedi gweld diffibrilydd ar wal y tu allan i’r ysgol. Menter rhwng yr ysgol a Chlwb Pêl-droed …
PTA dates for the diary (1)
Gwenfro – Gymnasteg 17.5.18
Mae pawb wedi mwynhau’n Spaceport. Siwrne’n ôl i Wrecsam rwan. Everyone has enjoyed the visit to Spaceport. They’ll be back …
SPACEPORT – atgoffa
Mae’n ddiwrnod braf i fod ar y beic. What a lovely day to be outside on a bike.
Daeth rhywun arbennig i’r ysgol heddiw i longyfarch un o hyfforddwyr Clwb Pêl-droed Ieuenctid Rhosddu United. Rydym yn ffodus iawn …
Lluniau Tempest 2018
Rydym yn edrych ymlaen i gyngerdd Cerddoriaeth Ieuenctid Wrecsam yn Neuadd William Aston. We’re looking forward to Wrexham Youth Music’s …
Dewch i gefnogi gwaith mentergrawch disgyblion Blwyddyn 6 ar ôl ysgol yfory. Bydd y disgyblion yn gwerthu hufen iâ y tu …
O heddiw, 2.5.18 gallwch dalu am ginio ysgol eich plentyn ar-lein gyda cherdyn debyn/credyd ar www.wrecsam.gov.uk/ysgolplascoch From today, 2.5.18 you …
Llythyr profion i rieni 2018 Llythyr profion rhieni 2018 S
Mabolgampau – dyddiadau 2018