Nodyn i atgoffa disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 eu bod angen eu gwisgoedd cyngerdd Nadolig i’r ysgol yfory. Diolch.
Disgo CRhA / PTA Disco
Nodyn i’ch hatgoffa am ddisgo’r CRhA nos fory (Mawrth) yn yr ysgol. Manylion ar y poster. A reminder about the …
Nodyn i’ch hatgoffa am ddisgo’r CRhA nos fory (Mawrth) yn yr ysgol. Manylion ar y poster. A reminder about the …
Nodyn i atgoffa disgyblion Blynyddoedd 5 a 6 eu bod angen eu gwisgoedd cyngerdd Nadolig i’r ysgol yfory. Diolch.
Mae CBSW wedi hysbysu’r ysgol ddiwedd wythnos diwethaf na fydd y bwriad o godi tal o £1 am ddefnyddio Clwb …
Mae Llysgenhadon Iaith yr ysgol wedi bod yn casglu syniadau er mwyn hybu’r iaith Gymraeg yn yr ysgol. Mae cydweithio agos rhwng y cartref a’r ysgol yn bwysig, felly, fel rhan o’u gwaith, maent yn awyddus i glywed barn y rhieni. Mae Llysgenhadon Blwyddyn 6 wedi llunio holiadur. A fyddech chi cystal ag ateb yr wyth cwestiwn byr trwy ddilyn y ddolen isod os gwelwch yn dda.
Holiadur Siarter Iaith i Rieni / Welsh Language Charter Questionnaire for Parents
Cafwyd noson hyfryd heno mewn Cyngerdd Nadolig yng Nghapel y Groes. Braf oedd rhannu llwyfan gydag Ysgol Bodhyfryd a’r delynores a chantores dalentog, Gwenan Gibbard. Diolch yn fawr iawn i’n disgyblion am ganu’n ardderchog, i deulu a ffrindiau am eich cefnogaeth ac i Miss Elen Mostyn a Miss Bethan Morris am eu gwaith caled.
Os hoffwch i’ch plentyn fynd i’r sinema wythnos nesaf, a wnewch chi yrru’r arian i’r ysgol erbyn yfory os gwelwch …
Llongyfarchiadau hefyd i dîm pêl-droed yr ysgol am ennill twrnament i ysgolion Cymraeg Wrecsam draw yn Ysgol Morgan Llwyd heddiw. Gwych bechgyn!
Llongyfarchiadau i dîm pêl-rwyd yr ysgol am ennill twrnament yn Ysgol Morgan Llwyd heddiw i ysgolion Cymraeg Wrecsam. Da iawn chi ferched!
Ni fydd clwb pêl-rwyd arall cyn ddiwedd y tymor. Mi fydd y clwb yn ail gychwyn ar Ddydd Iau, Ionawr 10fed.
Rydym yn ddiolchgar iawn i Glwb Pêl-droed Ieuenctid Rhosddu United am wahodd staff yr ysgol i ymuno â nhw i dderbyn hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r diffibrilydd sydd ar wal y tu allan i’r ysgol. Aeth Miss Rebecca Scott a Mr Geraint Jones ar yr hyfforddiant ond gobeithio na fydd angen defnyddio’r peiriant! Diolch i’r clwb am gyd-weithio’n agos â’r ysgol ac i Tomos o Wasanaeth Ambiwlans Cymru am arwain yr hyfforddiant.
Gofynnwn yn garedig i chi ddychwelyd y plant yn ôl i’r ysgol erbyn 5.30yh ar gyfer y perfformiad nos Fercher.
Diolch yn fawr.
At sylw rhieni’r plant sydd wedi eu dewis i fod yn aleod o’r tîm pêl-rwyd i gystadlu yn y twrnament Dydd Mercher, 12/12/2018.
Bydd y bws yn gadael yr ysgol am 9:15 ac yn dychwelyd am 12:15. Bydd rhaid i’ch plentyn ddod i’r ysgol yn gwisgo trwsus byr du, crys polo gwyrdd yr ysgol a thracwisg. Yn ogystal, bydd angen diod o ddŵr, bwyd bore iach a chôt.
Bydd angen i’ch plentyn adael i Miss Moreton wybod yfory os ydy hi’n gallu dod os gwelwch yn dda
Diolch yn fawr,
Miss Moreton.
llythyr gwisg1a2
Atgoffa Cyngherddau Nadolig
Cylchlythyr / Newsletter 7/12
Diolch yn fawr iawn i Gangen Wrecsam Merched y Wawr am eu rhodd arbennig o goeden i’r ysgol. Mae’r gangen yn dathlu hanner can mlwyddiant eleni ac fel rhan o’u dathliadau yn cyflwyno coeden i bob un o ysgolion Cymraeg Wrecsam. Llongyfarchiadau a phen-blwydd hapus!
Cofiwch y gall y plant wisgo siwmper Nadolig i’r ysgol fory gan ei bod yn ddiwrnod cinio Nadolig. Does dim …
Gan fod staff y gegin yn gweini cinio Nadolig Dydd Iau yma, Rhagfyr 6ed, mae croeso i bawb wisgo siwmper Nadolig i’r ysgol. Gall plant y Feithrin wisgo siwmper Nadolig hefyd, er nad ydynt yn gallu cael cinio ysgol. Nid ydym yn gofyn am gyfraniad i wneud hyn.
Ar ran holl blant yr ysgol, hoffem ddiolch yn fawr iawn i staff y gegin am eu gwaith caled trwy gydol y flwyddyn.