Oherwydd rhagolygon y tywydd a’r addewid am dywydd poeth, hoffem eich atgoffa fod hi’n hynod o bwysig fod gan eich plentyn botel ddŵr a chap/het haul yn yr ysgol. Rydym hefyd yn argymell bod y plant yn gwisgo eli haul i ddod i’r ysgol. Bydd digon o gyfle i’r plant ail-lenwi eu poteli dŵr a rhoi mwy o eli haul ymlaen yn ystod y dydd.
Neges gan ddisgyblion Blwyddyn 3 a 4 / Message from Years 3 and 4 pupils
Fel rhan o’n gwaith dysgu ar sail ymchwiliad, rydym wedi dod i benderfyniad ein bod eisiau gwella’r ardal tu allan …











