Eisteddfod Rhanbarth yr Urdd / Urdd County Eisteddfod

Diolch yn fawr a llongyfarchiadau i bob disgybl o’r ysgol a fu’n cymryd rhan yn Eisteddfod Rhanbarth yr Urdd ddydd Sadwrn yn neuadd William Aston. Gwnaeth pawb yn arbennig o dda gan gefnogi ei gilydd ac ymddwyn yn ardderchog.

Llongyfarchiadau arbenning i Ioan Massey am ddod yn drydydd yn y llefaru a’r unawd Bl 3 a 4; Efa Jones am ddod yn gyntaf yn yr Unawd Bl 5 a 6 a trydydd yn y Cyflwyno Alaw Werin ac i’r Cor Cerdd Dant am ddod yn gyntaf. Bydd Efa a’r Cor Cerdd Dant yn mynd ymlaen i gynrychioli’r ysgol yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Llanymddyfri ddiwedd mis Mai.

 

Thank you and congratulations to all the pupils that took part in the Urdd County Eisteddfod at the Williams Aston Hall on Saturday. Everyone did very well, supporting each other and behaving impeccably.  

Special congratulations to Ioan Massey on coming third in the Year 3 and 4 recitation and solo; to Efa Jones on coming first in the Year 5 and 6 solo and third in the Folk Song and to the Cerdd Dant Choir on coming first. Efa and the Cerdd Dant Choir will now represent the school at the Urdd National Eisteddfod in Llandovery at the end of May.