Pob bore dydd Mawrth, bydd Testun Trafod yn cael ei gyhoeddi yn y gwasanaeth ysgol gyfan. Testun penodol ydy hwn i annog y disgyblion i drafod gwahanol bynciau. Bydd cyfle i’r plant drafod y testun yn y dosbarth, yn y neuadd amser cinio, ar y buarth amser chwarae ac o amgylch yr ysgol. Mae croeso i chi drafod y testunau gyda’ch plentyn hefyd. Mwynhewch!
Testun Trafod yr wythnos hon – Pe bai gen i dri dymuniad…