Ni fydd clwb pêl-rwyd arall cyn ddiwedd y tymor. Mi fydd y clwb yn ail gychwyn ar Ddydd Iau, Ionawr 10fed.
Blwyddyn3/Year3
Hyfforddiant Diffibrilydd / Defibrillator Training
Rydym yn ddiolchgar iawn i Glwb Pêl-droed Ieuenctid Rhosddu United am wahodd staff yr ysgol i ymuno â nhw i dderbyn hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r diffibrilydd sydd ar wal y tu allan i’r ysgol. Aeth Miss Rebecca Scott a Mr Geraint Jones ar yr hyfforddiant ond gobeithio na fydd angen defnyddio’r peiriant! Diolch i’r clwb am gyd-weithio’n agos â’r ysgol ac i Tomos o Wasanaeth Ambiwlans Cymru am arwain yr hyfforddiant.
Twrnament Pêl-rwyd / Netball Tournament
At sylw rhieni’r plant sydd wedi eu dewis i fod yn aleod o’r tîm pêl-rwyd i gystadlu yn y twrnament Dydd Mercher, 12/12/2018.
Bydd y bws yn gadael yr ysgol am 9:15 ac yn dychwelyd am 12:15. Bydd rhaid i’ch plentyn ddod i’r ysgol yn gwisgo trwsus byr du, crys polo gwyrdd yr ysgol a thracwisg. Yn ogystal, bydd angen diod o ddŵr, bwyd bore iach a chôt.
Bydd angen i’ch plentyn adael i Miss Moreton wybod yfory os ydy hi’n gallu dod os gwelwch yn dda
Diolch yn fawr,
Miss Moreton.
Atgoffa Cyngherddau Nadolig Adran Iau / Reminder – Juniors Christmas Concerts
Atgoffa Cyngherddau Nadolig
Cylchlythyr / Newsletter
Cylchlythyr / Newsletter 7/12
Coeden Merched y Wawr / Merched y Wawr’s Tree
Diolch yn fawr iawn i Gangen Wrecsam Merched y Wawr am eu rhodd arbennig o goeden i’r ysgol. Mae’r gangen yn dathlu hanner can mlwyddiant eleni ac fel rhan o’u dathliadau yn cyflwyno coeden i bob un o ysgolion Cymraeg Wrecsam. Llongyfarchiadau a phen-blwydd hapus!
Siwmperi Nadolig / Christmas Jumpers
Cofiwch y gall y plant wisgo siwmper Nadolig i’r ysgol fory gan ei bod yn ddiwrnod cinio Nadolig. Does dim …
Siwmperi Nadolig 6/12/18 Christmas Jumpers
Gan fod staff y gegin yn gweini cinio Nadolig Dydd Iau yma, Rhagfyr 6ed, mae croeso i bawb wisgo siwmper Nadolig i’r ysgol. Gall plant y Feithrin wisgo siwmper Nadolig hefyd, er nad ydynt yn gallu cael cinio ysgol. Nid ydym yn gofyn am gyfraniad i wneud hyn.
Ar ran holl blant yr ysgol, hoffem ddiolch yn fawr iawn i staff y gegin am eu gwaith caled trwy gydol y flwyddyn.
Sanau Od / Odd Socks
Diolch i’r plant a’r staff am gefnogi’r ymgyrch sanau od heddiw er mwyn dathlu’r ffaith fod pawb yn wahanol. Diolch i’r Cyngor Ysgol am drefnu’r diwrnod ac am gyflwyno gwasanaeth ar sut i drin eraill â pharch.
Sanau Od / Odd Socks
Ar ddydd Mawrth, Tachwedd 27ain, rydym ni, Cyngor Ysgol Plas Coch, yn cyflwyno gwasanaeth i’r ysgol gyfan. Yn ein gwasanaeth rydym am ddathlu bod pawb yn wahanol ac am bwysleisio’r pwysigrwydd o barchu gwahaniaeth.
Er mwyn ein helpu ni yn y gwasanaeth, rydym yn gofyn i’r holl ddisgyblion ddod i’r ysgol Dydd Mawrth, Tachwedd 27ain yn gwisgo sanau od! Maent dal angen gwisgo eu gwisg ysgol ond gyda sanau od! Diolch am eich cyd-weithrediad.
Cylchlythyr / Newsletter
Tachwedd 23ain / November 23rd
Marc Griffiths a’i ffrindiau / Marc Griffiths and friends
Wel am fore o hwyl yng nghwmni Marc Griffiths (BGT, 2012) a’i ffrindiau. Er yr holl chwerthin, roedd gan Marc …
Bore Gwobrwyo Ysgolion Iach / Healthy Schools Awards Ceremony
Mae criw o ddisgyblion Blwyddyn 6 wedi bod yn derbyn gwobr Ysgolion Iach ar ran yr ysgol yng Nghanolfan Catfin Finch y bore ‘ma. Diolch i Miss Rebecca Scott am fynd â’r plant ac am ei gwaith caled yn arwain yr elfen bwysig yma o fywyd yr ysgol.
Taith Cadbury World / Cadbury World Visit
Diweddariad ar amser y bws – 6:20pm yn yr ysgol o ganlyniad i draffig trwm. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra. An …
Bws o Cadbury World / Coach from Cadbury World
Mae’r ffyrdd o Birmingham yn brysur ac mae’r bws yn symud yn araf mewn traffig trwm. Nid yw’r plant yn debygol o gyrraedd yr ysgol cyn 6:00pm. Rydym yn siwr o’ch diweddaru ar yr ap neu ar Facebook os yw’r amser yn newid.
Dim pêl-droed ar ôl ysgol yfory / No football after school tomorrow
Oherwydd bod Mr Iestyn Jones ar gwrs, ni fydd sesiwn pêl-droed ar ôl ysgol yfory.
Y Cyngor Ysgol yn ymweld ag Ysgol Bro Alun / The School Council’s visit to Ysgol Bro Alun
Aeth rhai o aelodau ein Cyngor Ysgol draw i Ysgol Bro Alun y prynhawn ‘ma i gyfarfod Cyngor Ysgol Bro Alun. Mae gan aelodau cyngor y ddwy ysgol swydd bwysig iawn ac roedd hi’n gyfle i’r disgyblion rannu syniadau.