Ffair Haf / Summer Fair

Diolch yn fawr iawn i Gymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Plas Coch am drefnu Ffair Haf bendigedig nos Wener.  Mae’r criw bach o rieni’n gweithio’n ddiflino er mwyn codi arian i’r ysgol.  Roedd y trefniadau’n wych, yr adloniant yn hyfryd, y bwyd yn flasus a’r tywydd yn berffaith.

Mwy/More

Ffair Haf / Summer Fair

Dewch draw i’r Ffair Haf am 3:30pm heddiw.  Mae’r tywydd yn hyfryd a digon i’w wneud ar fuarth yr ysgol. …

Mwy/More

Tywydd poeth / Hot weather

 

Oherwydd rhagolygon y tywydd a’r addewid am dywydd poeth iawn am weddill yr wythnos, hoffwn eich hatgoffa fod hi’n hynod o bwysig fod gan eich plentyn botel ddŵr a chap/het haul yn yr ysgol. Rydym hefyd yn argymell bod y plant yn gwisgo eli haul i ddod i’r ysgol. Bydd digon o gyfle i’r plant ail-lenwi eu poteli dŵr a rhoi mwy o eli haul ymlaen yn ystod y dydd.

Mwy/More

Cyfanswm Marathon Mai / May Marathon Total

Anhygoel – mae’r disgyblion wedi codi £4968.61 mewn arian noddi!  Diolch o galon i’r rhai sydd wedi dychwelyd y ffurflenni noddi a’r arian i’r ysgol.  Os oes gennych arian ychwanegol, gofynnwn yn garedig i chi anfon yr arian i’r ysgol erbyn dydd Llun, Mehefin 25ain, fel ein bod yn gallu cyhoeddi enillydd pob uned yn ein gwasanaeth ysgol gyfan fore Mawrth.  Rydym yn hynod o ddiolchgar am eich caredigrwydd a’ch cefnogaeth,

Mwy/More

Marc a Kevin

Wel am fore o hwyl yng nghwmni Marc Griffiths a Kevin (BGT, 2012). Er yr holl chwerthin, roedd gan Marc a Kevin neges bwysig dros ben, pwysigrwydd gwneud penderfyniadau da.

Mwy/More

Mabolgampau’r Urdd Athletics Competition

Bu nifer o ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn cynrychioli’r ysgol yn Mabolgampau’r Urdd yng Nghei Connah.  Pob hwyl i bob un sy’n cynrychioli’r rhanbarth draw ym Mharc Eirias yr wythnos nesaf.

Mwy/More

Wythnos Cymru Cŵl Week (04/06/2018 – 08/06/2018)

Mae’r wythnos gyntaf ar ôl gwyliau’r hanner tymor yn Wythnos Cymru Cŵl yn yr ysgol (04/06/2018 – 08/06/2018).  Mae amserlen Cyfnod Allweddol 2 ar gael isod:

Amserlen Wythnos Cymru Cŵl (C.A.2)

Mae disgyblion Cyfnod Allweddol 2 angen dod â’u dillad addysg gorfforol ar ddydd Iau, Mehefin 7fed.

Mae croeso i’r disgyblion i gyd wisgo rhywbeth coch, gwyn neu wyrdd ar ddydd Gwener, Mehefin 8fed.

Mwy/More

Marathon Mai / May Marathon

Rydym yn falch iawn o’n plant yma yn Ysgol Plas Coch.  Yn ystod mis Mai mae’r plant wedi bod yn cerdded neu’n rhedeg yn ystod ein gweithgaredd noddedig ‘Marathon Mai’.  Mae plant y Meithrin a’r Derbyn wedi cerdded cyfanswm o 10km, plant Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 wedi cerdded / rhedeg cyfanswm o 13.1 milltir (hanner marathon) a phlant Blynyddoedd 3, 4, 5 a 6 wedi cerdded / rhedeg cyfanswm o 26.2 milltir (marathon). Nid yn unig yw hyn wedi gwella ffitrwydd a hybu cadw’n iach ond hefyd yn codi arian i ni brynu offer TGCh.

Os ydach chi angen mwy o ffurflenni noddi mae’n bosib eu lawrlwytho isod:

Ffurflen noddi 10Km (Meithrin a Derbyn)

Ffurflen Noddi Hanner Marathon (Bl. 1 a 2)

Ffurflen Noddi Marathon (Bl. 3, 4, 5 a 6)

Mae angen cwblhau’r ffurflen noddi a dychwelyd y ffurflen a’r arian i’r ysgol erbyn Mehefin 8fed os gwelwch yn dda. Cofiwch fod gwobr arbennig i’r plentyn sy’n codi’r mwyaf o arian yn y Meithrin a Derbyn, Blynyddoedd 1 a 2, Blynyddoedd 3 a 4 a Blynyddoedd 5 a 6.

Mwy/More