Mae Llysgenhadon Iaith yr ysgol wedi bod yn casglu syniadau er mwyn hybu’r iaith Gymraeg yn yr ysgol. Mae cydweithio agos rhwng y cartref a’r ysgol yn bwysig, felly, fel rhan o’u gwaith, maent yn awyddus i glywed barn y rhieni. Mae Llysgenhadon Blwyddyn 6 wedi llunio holiadur. A fyddech chi cystal ag ateb yr wyth cwestiwn byr trwy ddilyn y ddolen isod os gwelwch yn dda.
Holiadur Siarter Iaith i Rieni / Welsh Language Charter Questionnaire for Parents