Oherwydd bod Mr Iestyn Jones ar gwrs, ni fydd sesiwn pêl-droed ar ôl ysgol yfory.
Tocynnau cyngherddau Nadolig y Babanod / Infants Christmas concerts tickets
meithrin-tocynnau Nursery-tickets Bl.1 a 2 – tocynnau Yr.1 + 2 – tickets
meithrin-tocynnau Nursery-tickets Bl.1 a 2 – tocynnau Yr.1 + 2 – tickets
Oherwydd bod Mr Iestyn Jones ar gwrs, ni fydd sesiwn pêl-droed ar ôl ysgol yfory.
Aeth rhai o aelodau ein Cyngor Ysgol draw i Ysgol Bro Alun y prynhawn ‘ma i gyfarfod Cyngor Ysgol Bro Alun. Mae gan aelodau cyngor y ddwy ysgol swydd bwysig iawn ac roedd hi’n gyfle i’r disgyblion rannu syniadau.
Mae’r bocsys T4U wedi dechrau ar eu taith i ddwyrain Ewrop. Diolch i chi am gefnogi’r elusen. Rydym yn derbyn bocsys yn yr ysgol tan ddydd Gwener.
Pleser oedd croesawu un o gyn-ddisgyblion Ysgol Plas Coch yn ôl i’r ysgol y bore ‘ma. Daeth Robin Jones a gweddill y band The Trials Of Cato, William Addison a Tomos Williams, i ddiddanu’r disgyblion a’r staff cyn ateb llwyth o gwestiynau diddorol. Syniad llysgenhadon iaith yr ysgol oedd gwahodd band sy’n defnyddio’r Gymraeg i’r ysgol er mwyn hyrwyddo’r iaith a cherddoriaeth Gymraeg. Dewis amlwg oedd The Trials of Cato gan fod dau o’r tri o’r ardal, a Robin, wrth gwrs, yn gyn-ddisgybl. Cafodd y llysgenhadon gyfle i gynnal cyfweliad â’r band er mwyn eu holi am bwysigrwydd yr iaith yn eu llwyddiant. Diolch yn fawr i The Trials of Cato.
Alison Edwards
Diolch i chi am gefnogi Ffair Nadolig yr ysgol heno. Am ddechrau gwych i gyfnod prysur yr Wŷl. Diolch o galon i Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yr ysgol am y gwaith trefnu a pharatoi ac i rai o ddisgyblion yr ysgol am helpu.
Diolch i griw Agor y Llyfr am gyflwyno’r stori ‘Y Picnic Perffaith’ yn ein gwasanaeth heddiw.
Braf oedd croesawu Pudsey ac Aled Hughes o BBC Radio Cymru i’r ysgol y bore ‘ma. Daeth y ddau yma wedi i Ela o Flwyddyn 4 anfon e-bost at Aled Hughes yn ei wahodd i’r ysgol i gasglu pawennau llawen. Casglodd 333 Pawen Lawen gan blant yr ysgol fel rhan o’i ymgyrch BBC Plant Mewn Angen eleni. Mae mwy o wybodaeth am ei ymgyrch yma:
https://www.bbc.co.uk/programmes/p06p27b1
Diolch i Ela, Aled Hughes ac wrth gwrs, Pudsey.
Cofiwch fod y plant yn gallu cefnogi BBC Plant Mewn Angen yfory:
Rydym yn ymddiheuro mai rwan rydych yn derbyn y neges yma. Ar ddydd Gwener, yr 16eg o Dachwedd, mae hi’n …
Diwrnod Agored yng Nghanolfan Tenis Wrecsam Pryd: Dydd Sadwrn, Tachwedd 17eg 10:30am – 12:00pm neu 2:00pm – 3:30pm Dydd Sul, Tachwedd …
Nodyn i’ch hatgoffa i ddychwelyd y bocsys esgidiau Teams4U i’r ysgol erbyn Dydd Llun nesaf, Tachwedd 19eg. Os oes angen …
Cyngherddau Dolig Plas Coch 2018
Efallai i chi weld y rhif 100 ar y ffens y tu allan i’r ysgol. Dyma waith Eco-Bwyllgor yr ysgol. Mae’r disgyblion wedi defnyddio hen boteli plastig er mwyn gwneud pabïau coch a’u gosod i ffurfio’r rhif 100. Dyma oedd y disgyblion eisiau gwneud er mwyn cofio’r miloedd oedd wedi dioddef yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a ddaeth i ben 100 mlynedd yn ôl. Cynhaliodd y disgyblion wasanaeth y prynhawn ‘ma i ddangos eu gwaith ac i gofio’r bobl oedd wedi dioddef yn ystod y Rhyfel Mawr ac mewn rhyfeloedd eraill ers hynny.
Diwrnod di-wisg heddiw! Non-uniform day today!
Oherwydd anhawster gyda chyflenwad bwyd, mi fydd cinio dathliadau tân gwyllt yfory yn lle heddiw.
Dyma weithgareddau’r CRhA dros yr hanner tymor nesaf – gwerthfawrogwn bob cefnogaeth. Here are the PTA’s activities over the next …
Rydym yn gobeithio gwneud gwaith celf ysgol gyfan ar ôl gwyliau’r hanner tymor. Rydym yn gofyn i bob plentyn ddod …