Cyngherddau Nadolig / Christmas Concerts

Gobeithio eich bod wedi mwynhau’r cyngherddau Nadolig eleni.  Cafwyd 4 cyngerdd bendigedig gan ddechrau gyda chyfle i ddathlu’r Nadolig gyda’r Meithrin a Derbyn, ‘Cerdyn Nadolig’ gan Blynyddoedd 1 a 2, ‘Babwshca’ gan Flynyddoedd 3 a 4 a ‘Carol yr Anifeiliaid’ gan Flynyddoedd 5 a 6.  Llongyfarchiadau i bob un disgybl am berfformio’n wych ac i’r staff am eu gwaith caled.  Diolch i chi hefyd, yn deulu ac yn ffrindiau, am eich cymorth gyda’r gwisgoedd, am helpu’r plant i ddysgu geiriau ac am ddod i wylio a chefnogi.

Mwy/More

Dim Adran yr Urdd Heno – No Adran yr Urdd Tonight

Neges gan Owain / A message from Owain:

 

Bore da,

‘Mond neges i ddweud bod yr Adran wedi’i ohirio heno gan ei fod hi’n gyfnod mor brysur gyda’r ‘Dolig!

Bydd yr Adran yn ail-ddechrau ar y 14eg o Ionawr – Y Fic, Wrecsam rhwng 4-5.30.

Diolch o flaen llaw a ‘Dolig Llawen!

Owain.

Mwy/More

Disgo CRhA / PTA Disco

Nodyn i’ch hatgoffa am ddisgo’r CRhA nos fory (Mawrth) yn yr ysgol. Manylion ar y poster. A reminder about the …

Mwy/More

Holiadur Siarter Iaith i Rieni / Welsh Language Charter Questionnaire for Parents

Mae Llysgenhadon Iaith yr ysgol wedi bod yn casglu syniadau er mwyn hybu’r iaith Gymraeg yn yr ysgol.  Mae cydweithio agos rhwng y cartref a’r ysgol yn bwysig, felly, fel rhan o’u gwaith, maent yn awyddus i glywed barn y rhieni.  Mae Llysgenhadon Blwyddyn 6 wedi llunio holiadur.  A fyddech chi cystal ag ateb yr wyth cwestiwn byr trwy ddilyn y ddolen isod os gwelwch yn dda.

Holiadur Siarter Iaith i Rieni / Welsh Language Charter Questionnaire for Parents

Mwy/More

Cyngerdd Nadolig Capel y Groes / A Christmas Concert at Capel y Groes

Cafwyd noson hyfryd heno mewn Cyngerdd Nadolig yng Nghapel y Groes.  Braf oedd rhannu llwyfan gydag Ysgol Bodhyfryd a’r delynores a chantores dalentog, Gwenan Gibbard. Diolch yn fawr iawn i’n disgyblion am ganu’n ardderchog, i deulu a ffrindiau am eich cefnogaeth ac i Miss Elen Mostyn a Miss Bethan Morris am eu gwaith caled.

Mwy/More

Sinema/Cinema

Os hoffwch i’ch plentyn fynd i’r sinema wythnos nesaf, a wnewch chi yrru’r arian i’r ysgol erbyn yfory os gwelwch …

Mwy/More

Hyfforddiant Diffibrilydd / Defibrillator Training

Rydym yn ddiolchgar iawn i Glwb Pêl-droed Ieuenctid Rhosddu United am wahodd staff yr ysgol i ymuno â nhw i dderbyn hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r diffibrilydd sydd ar wal y tu allan i’r ysgol.  Aeth Miss Rebecca Scott a Mr Geraint Jones ar yr hyfforddiant ond gobeithio na fydd angen defnyddio’r peiriant!  Diolch i’r clwb am gyd-weithio’n agos â’r ysgol ac i Tomos o Wasanaeth Ambiwlans Cymru am arwain yr hyfforddiant.

Mwy/More

Twrnament Pêl-rwyd / Netball Tournament

At sylw rhieni’r plant sydd wedi eu dewis i fod yn aleod o’r tîm pêl-rwyd i gystadlu yn y twrnament Dydd Mercher, 12/12/2018.

Bydd y bws yn gadael yr ysgol am 9:15 ac yn dychwelyd am 12:15. Bydd rhaid i’ch plentyn ddod i’r ysgol yn gwisgo trwsus byr du, crys polo gwyrdd yr ysgol a thracwisg. Yn ogystal, bydd angen diod o ddŵr, bwyd bore iach a chôt.

Bydd angen i’ch plentyn adael i Miss Moreton wybod yfory os ydy hi’n gallu dod os gwelwch yn dda  

Diolch yn fawr,

Miss Moreton.

Mwy/More

Coeden Merched y Wawr / Merched y Wawr’s Tree

Diolch yn fawr iawn i Gangen Wrecsam Merched y Wawr am eu rhodd arbennig o goeden i’r ysgol.  Mae’r gangen yn dathlu hanner can mlwyddiant eleni ac fel rhan o’u dathliadau yn cyflwyno coeden i bob un o ysgolion Cymraeg Wrecsam.  Llongyfarchiadau a phen-blwydd hapus!

Mwy/More

Siwmperi Nadolig 6/12/18 Christmas Jumpers

Gan fod staff y gegin yn gweini cinio Nadolig Dydd Iau yma, Rhagfyr 6ed, mae croeso i bawb wisgo siwmper Nadolig i’r ysgol. Gall plant y Feithrin wisgo siwmper Nadolig hefyd, er nad ydynt yn gallu cael cinio ysgol.  Nid ydym yn gofyn am gyfraniad i wneud hyn.

Ar ran holl blant yr ysgol, hoffem ddiolch yn fawr iawn i staff y gegin am eu gwaith caled trwy gydol y flwyddyn.

Mwy/More