Diolch yn fawr i staff y gegin am ginio Nadolig blasus heddiw.
Cylchlythyr / Newsletter
Cylchlythyr / Newsletter 7/12
Cylchlythyr / Newsletter 7/12
Diolch yn fawr iawn i Gangen Wrecsam Merched y Wawr am eu rhodd arbennig o goeden i’r ysgol. Mae’r gangen yn dathlu hanner can mlwyddiant eleni ac fel rhan o’u dathliadau yn cyflwyno coeden i bob un o ysgolion Cymraeg Wrecsam. Llongyfarchiadau a phen-blwydd hapus!
Cofiwch y gall y plant wisgo siwmper Nadolig i’r ysgol fory gan ei bod yn ddiwrnod cinio Nadolig. Does dim …
Gan fod staff y gegin yn gweini cinio Nadolig Dydd Iau yma, Rhagfyr 6ed, mae croeso i bawb wisgo siwmper Nadolig i’r ysgol. Gall plant y Feithrin wisgo siwmper Nadolig hefyd, er nad ydynt yn gallu cael cinio ysgol. Nid ydym yn gofyn am gyfraniad i wneud hyn.
Ar ran holl blant yr ysgol, hoffem ddiolch yn fawr iawn i staff y gegin am eu gwaith caled trwy gydol y flwyddyn.
Oherwydd y diffyg golau dydd a’r tywydd gwlyb, bydd y Clwb Pêl-rwyd yn y neuadd ar ôl ysgol yfory. Gofynnwn i chi gasglu’ch plentyn o’r neuadd os gwelwch yn dda.
Diolch i’r plant a’r staff am gefnogi’r ymgyrch sanau od heddiw er mwyn dathlu’r ffaith fod pawb yn wahanol. Diolch i’r Cyngor Ysgol am drefnu’r diwrnod ac am gyflwyno gwasanaeth ar sut i drin eraill â pharch.
Ar ddydd Mawrth, Tachwedd 27ain, rydym ni, Cyngor Ysgol Plas Coch, yn cyflwyno gwasanaeth i’r ysgol gyfan. Yn ein gwasanaeth rydym am ddathlu bod pawb yn wahanol ac am bwysleisio’r pwysigrwydd o barchu gwahaniaeth.
Er mwyn ein helpu ni yn y gwasanaeth, rydym yn gofyn i’r holl ddisgyblion ddod i’r ysgol Dydd Mawrth, Tachwedd 27ain yn gwisgo sanau od! Maent dal angen gwisgo eu gwisg ysgol ond gyda sanau od! Diolch am eich cyd-weithrediad.
Tachwedd 23ain / November 23rd
Wel am fore o hwyl yng nghwmni Marc Griffiths (BGT, 2012) a’i ffrindiau. Er yr holl chwerthin, roedd gan Marc …
Mae criw o ddisgyblion Blwyddyn 6 wedi bod yn derbyn gwobr Ysgolion Iach ar ran yr ysgol yng Nghanolfan Catfin Finch y bore ‘ma. Diolch i Miss Rebecca Scott am fynd â’r plant ac am ei gwaith caled yn arwain yr elfen bwysig yma o fywyd yr ysgol.
Diweddariad ar amser y bws – 6:20pm yn yr ysgol o ganlyniad i draffig trwm. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra. An …
Nodyn i adael i chi wybod bod sesiwn bêl-rwyd ar ôl ysgol heno. Gan fod Mr Iestyn Jones ar gwrs y sesiwn bêl-droed sydd wedi ei chanslo.
Oherwydd bod Mr Iestyn Jones ar gwrs, ni fydd sesiwn pêl-droed ar ôl ysgol yfory.
Aeth rhai o aelodau ein Cyngor Ysgol draw i Ysgol Bro Alun y prynhawn ‘ma i gyfarfod Cyngor Ysgol Bro Alun. Mae gan aelodau cyngor y ddwy ysgol swydd bwysig iawn ac roedd hi’n gyfle i’r disgyblion rannu syniadau.
Mae’r bocsys T4U wedi dechrau ar eu taith i ddwyrain Ewrop. Diolch i chi am gefnogi’r elusen. Rydym yn derbyn bocsys yn yr ysgol tan ddydd Gwener.
Pleser oedd croesawu un o gyn-ddisgyblion Ysgol Plas Coch yn ôl i’r ysgol y bore ‘ma. Daeth Robin Jones a gweddill y band The Trials Of Cato, William Addison a Tomos Williams, i ddiddanu’r disgyblion a’r staff cyn ateb llwyth o gwestiynau diddorol. Syniad llysgenhadon iaith yr ysgol oedd gwahodd band sy’n defnyddio’r Gymraeg i’r ysgol er mwyn hyrwyddo’r iaith a cherddoriaeth Gymraeg. Dewis amlwg oedd The Trials of Cato gan fod dau o’r tri o’r ardal, a Robin, wrth gwrs, yn gyn-ddisgybl. Cafodd y llysgenhadon gyfle i gynnal cyfweliad â’r band er mwyn eu holi am bwysigrwydd yr iaith yn eu llwyddiant. Diolch yn fawr i The Trials of Cato.
Alison Edwards