Jambori

Cofiwch fod disgyblion Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 yn mynd i’r Stiwt bore ‘fory ar gyfer y Jambori gyda Martyn …

Mwy/More

Ffair Haf / Summer Fair

Diolch yn fawr iawn i Gymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Plas Coch am drefnu Ffair Haf bendigedig nos Wener.  Mae’r criw bach o rieni’n gweithio’n ddiflino er mwyn codi arian i’r ysgol.  Roedd y trefniadau’n wych, yr adloniant yn hyfryd, y bwyd yn flasus a’r tywydd yn berffaith.

Mwy/More

Ffair Haf / Summer Fair

Dewch draw i’r Ffair Haf am 3:30pm heddiw.  Mae’r tywydd yn hyfryd a digon i’w wneud ar fuarth yr ysgol. …

Mwy/More

Tywydd poeth / Hot weather

 

Oherwydd rhagolygon y tywydd a’r addewid am dywydd poeth iawn am weddill yr wythnos, hoffwn eich hatgoffa fod hi’n hynod o bwysig fod gan eich plentyn botel ddŵr a chap/het haul yn yr ysgol. Rydym hefyd yn argymell bod y plant yn gwisgo eli haul i ddod i’r ysgol. Bydd digon o gyfle i’r plant ail-lenwi eu poteli dŵr a rhoi mwy o eli haul ymlaen yn ystod y dydd.

Mwy/More