Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar ddyfodol y Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol yng Nghymru. Disgwylir i’r trefniadau gweinyddu presennol gyda’r Asiantaeth Taliadau Gwledig ddod i ben ym mis Mawrth 2027. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar opsiynau ar gyfer trefniadau cyflawni yn y dyfodol o fis Ebrill 2027 ymlaen. Mae’r opsiynau hyn yn cynnwys cyflwyno cynllun Cymreig newydd i barhau â chymorth pwrpasol ar gyfer darparu llaeth mewn ysgolion neu ddod â’r Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol pwrpasol i ben. Mae’r Cynllun wedi cefnogi darparu llaeth mewn ysgolion a gynhelir ar draws Cymru ers blynyddoedd lawer ac rydym yn awyddus i glywed barn rhanddeiliaid ar oblygiadau posibl yr opsiynau arfaethedig.Byddem yn ddiolchgar pe gallech fwrw golwg ar y ddogfen ymgynghori a chyflwyno eich barn cyn y dyddiad cau ar 4 Ionawr 2027.
Mae’r ymgynghoriad i’w weld yma: Ymgyngoriadau | LLYW.CYMRU .
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Tîm Bwyd mewn Ysgolion drwy e-bostio [email protected].
The Welsh Government has launched a consultation on the future administration of the School Milk Subsidy Scheme (SMSS) in Wales. The current administration arrangements with the Rural Payments Agency are due to come to an end in March 2027. As a result, Welsh Government is seeking views on options for future delivery arrangements from April 2027 onwards. These options include introducing a new Welsh scheme to continue dedicated support for milk provision in schools or ending the dedicated SMSS. The SMSS has supported the provision of milk in maintained schools across Wales for many years and we are keen to hear the views of stakeholders on the potential implications of the proposed options. We would be grateful if you could review the consultation and submit your views before the closing date of 4 January 2027.
The consultation can be accessed here: Consultations | GOV.WALES
Should you have any questions, please contact the Food in Schools Team at [email protected].









