Efallai i chi weld y rhif 100 ar y ffens y tu allan i’r ysgol. Dyma waith Eco-Bwyllgor yr ysgol. Mae’r disgyblion wedi defnyddio hen boteli plastig er mwyn gwneud pabïau coch a’u gosod i ffurfio’r rhif 100. Dyma oedd y disgyblion eisiau gwneud er mwyn cofio’r miloedd oedd wedi dioddef yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a ddaeth i ben 100 mlynedd yn ôl. Cynhaliodd y disgyblion wasanaeth y prynhawn ‘ma i ddangos eu gwaith ac i gofio’r bobl oedd wedi dioddef yn ystod y Rhyfel Mawr ac mewn rhyfeloedd eraill ers hynny.
Gwahoddiad gan Ganolfan Tenis Wrecsam / An Invite from Wrexham Tennis Centre
Diwrnod Agored yng Nghanolfan Tenis Wrecsam Pryd: Dydd Sadwrn, Tachwedd 17eg 10:30am – 12:00pm neu 2:00pm – 3:30pm Dydd Sul, Tachwedd …