Mae’r wythnos gyntaf ar ôl gwyliau’r hanner tymor am fod yn Wythnos Cymru Cŵl (4/6/18 – 8/6/18) yn yr ysgol. Mae amrywiaeth o weithgareddau wedi eu trefnu ar gyfer y disgyblion yn cynnwys gweithdai gyda Daniel Lloyd.
Mae Daniel Lloyd wedi cytuno i feirniadu cystadleuaeth arbennig yn ogystal â chynnig gwobr i’r enillydd, copi o’i albwm ‘Goleuadau Llundain’ wedi ei arwyddo.
Os am y cyfle i ennill yr albwm mae angen dylunio clawr newydd i’r albwm. Mae’n bosib lawrlwytho’r daflen i gystadlu isod:
Dewch â’ch dyluniad i’r ysgol erbyn Dydd Mawrth, Mehefin 5ed.