Ers mis Medi, mae Estyn wedi cychwyn ymweld efo ysgolion i gynnal ymweliadau interim sy’n para diwrnod neu ddau. Nid arolwg llawn yw hyn ond cyfle i weld sut mae ysgol yn dod yn ei blaen efo argymhellion o’r arolwg llawn diwethaf a / neu cynnydd yn erbyn un neu rai o flaenoriaethau’r ysgol.
Ddechrau mis Ebrill, fe ymwelodd arolygwyr o Estyn a Plas Coch ar ymweliad interim gan ffocysu ar ein cynnydd yn erbyn un argymhelliad o’r arolwg llawn diwethaf ym Mehefin 2022 ac un o flaenoriaethau’r ysgol o 2023/24. Mae llythyr yn nodi canfyddiadau’r ymweliad wedi ei gyhoeddi heddiw a mae copi wedi ei atodi isod i chi ei ddarllen. Rydym yn hynod o falch o’r canfyddiadau ac yn ddiolchgar i’r staff a’r disgyblion am eu gwaith caled parhaus yn yr ysgol.
Since September, Estyn have begun visiting schools on interim visits that last for a day or two. This isn’t a full inspection, but a chance to see how a school has responded to recommendations from the last full inspection and / or progress against one of the school’s priorities.
At the beginning of April, inspectors from Estyn conducted an interim visit at Plas Coch focusing on our progress against one of the recommendations from the last full inspection in June 2022 and one of our 2023/24 priorities. A letter noting their findings has been published today and a copy has been attached below for you to read. We are proud of their findings and very grateful to the staff and pupils for their continued hard work at the school.
Llythyr ymweliad interim Estyn Ysgol Plas Coch Ebrill 2025 / Estyn Interim visit letter Ysgol Plas Coch April 2025