Ar ddechrau tymor newydd, hoffem eich hatgoffa o bwysigrwydd presenoldeb a phrydlondeb yn yr ysgol.
Er gwaethaf sawl neges yn atgoffa o bwysigrwydd prydlondeb, rydym yn parhau i weld disgyblion yn cyrraedd yn gyson hwyr, gan greu gwaith ychwanegol i staff gweinyddol, athrawon a chymhorthyddion a staff y gegin, yn enwedig pan nad yw rhieni wedi dewis cinio o flaenllaw drwy ParentPay. Gall hefyd arwain at darfu ar y dosbarth a disgyblion sy’n hwyr yn colli cyflwyniad i wersi a gwaith. Mae cyrraedd ar amser yn gosod arfer ac esiampl dda i blant ar gyfer y dyfodol. Rhowch ddigon o amser i’ch hun i gyrraedd yn y bore, gan gymryd i ystyriaeth traffic ac os yn berthnasol, unrhyw dywydd allai effeithio ar ffyrdd.
Yn yr un modd, mae presenoldeb rheolaidd yn bwysig ar gyfer cynnydd eich plentyn – mae presenoldeb yr ysgol wedi disgyn yn ystod yr hanner tymor diwethaf ac yn dal i fod yn is nac oedd cyn y pandemig.
Mae absenoldebau awdurdodedig yn gallu cynnwys salwch, amgylchiadau teuluol eithriadol, apwyntiadau meddygol / deintyddol na ellir eu hosgoi, digwyddiadau crefyddol a gwyliau awdurdodedig.
Mae absenoldebau di-awdurdod yn gallu cynnwys man anhwylderau, gwyliau diawdurdod, penblwyddi (disgyblion ac aelodau o’r teulu), teithiau dydd, aros am weithwyr / danfoniadau, dryswch am ddyddiadau dychwelyd i’r ysgol, siopa, gofalu am frodyr / chwiorydd, cymryd diwrnod llawn ar gyfer apwyntiad meddygol, hwyrni parhaus.
Ein targed am bresenoldeb yw 95% a byddwn yn cysylltu efo rhieni os yw’r presenoldeb ymhell o dan y ffigwr hwn, gan gydweithio hefyd efo tim y Gweithwyr Addysg Cymdeithasol i wella presenoldeb disgyblion.
Mae polisi presenoldeb yr ysgol / CBSW i’w weld ar ein safle gwe (dolen isod).
At the beginning of a new term, we’d like to remind you of the importance of punctuality and attendance at school.









