Polisi ymddygiad rhieni / Parental conduct policy

Wedi ei atodi isod mae polisi ymddygiad rhieni sydd wedi ei gynhyrchu yn ddiweddar ar gyfer holl ysgolion Wrecsam. Gwerthfawrogem pe baech yn cymryd amser i’w ddarllen. Mae nifer o wahanol randdeiliaid wedi bod yn gyfrifol am gynhyrchu’r polisi, gan gynnwys tim cyfreithiol yr AALl. Fe’i gynhyrchwyd ar gais ysgolion yn dilyn cynnydd yn y nifer yr achosion o ymddygiad amrhriodol gan rieni tuag at ysgolion yn Wrecsam. Wrth ddweud hyn, rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y berthynas dda sy’n bodoli rhwng Ysgol Plas Coch a’n rhieni ac yn ymwybodol mai prin iawn yw’r achosion o unrhyw ymddygiad amhriodol tuag at yr ysgol a’n staff. Mae yna adran yn y polisi hefyd sy’n cyfeirio at ddisgwyliadau ymddygiad rhwng rhieni. Bydd copi o’r polisi ar gael ar ein safle gwe hefyd.

 

Below is a copy of a recently created parental conduct policy for all Wrexham schools that we’d appreciate if you could read. A number of stakeholders have been responsible for creating the policy including the LEA’s legal team. The policy has been produced on the request of Wrexham schools due to a rise in the number of cases of inappropriate behaviour by parents towards schools. Saying this, we do really appreciate the positive relationship that exists between Ysgol Plas Coch and our parents and are aware that there are hardly any cases of inappropriate behaviour towards the school and its staff. There is also a section in the policy that refers to expectations in relation to behaviour between parents. A copy of the policy will also be available on our website.

Polisi ymddygiad rhieni Medi 2026

Parental Conduct Policy September 2026