Peintio’r maes parcio / Car park painting

Dros y penwythnos, cwblhawyd y gwaith o beintio llinellau’r mannau parcio ym maes parcio’r staff / dalwyr bathodyn glas. Rydym yn hynod o ddiolchgar i wirfoddolwyr o Glwb Pel Droed Wrexham Forresters am wneud y gwaith a hynny heb ddim cost i’r ysgol a rydym yn edrych ymlaen at gydweithio efo’r clwb wrth iddynt ddefnyddio ein cae dros y blynyddoedd nesaf.

Os ydech chi’n rai sydd a chaniatad i barcio yno a wnewch chi sicrhau eich bod yn parcio o fewn y llinellau priodol. Am ddydd Llun a Mawrth, bydd y mannau parcio sydd yn y llun isod ar gau er mwyn rhoi cyfle i’r paent sychu’n iawn a ni fydd mynediad drwy’r giat fach ‘pop up’ – dylid defnyddio’r giat ddwbl sydd gerllaw yn hytrach.

 

Over the weekend, the work of marking the parking bays in the staff / blue badge holders car park was completed. We are very grateful to volunteers from Wrexham Forresters FC for completing this work free of charge and we look forward to cooperating with the club as they use the school field over the next few years. 

For those that are allowed to park there, could you please ensure that you park in a bay, within the lines. For Monday and Tuesday, the bays in the picture below will be closed to give the paint time to dry properly and there will be no access through the small ‘pop up’ gate, please use the nearby double one instead.