Oherwydd rhagolygon y tywydd a’r addewid am dywydd poeth iawn am weddill yr wythnos, hoffwn eich hatgoffa fod hi’n hynod o bwysig fod gan eich plentyn botel ddŵr a chap/het haul yn yr ysgol. Rydym hefyd yn argymell bod y plant yn gwisgo eli haul i ddod i’r ysgol. Bydd digon o gyfle i’r plant ail-lenwi eu poteli dŵr a rhoi mwy o eli haul ymlaen yn ystod y dydd.
Ffair Haf / Summer Fair
Dewch draw i’r Ffair Haf am 3:30pm heddiw. Mae’r tywydd yn hyfryd a digon i’w wneud ar fuarth yr ysgol. …






























