Cawsom ddiwrnod cofiadwy arall heddiw yn dathlu #DyddMiwsigCymru 2019.
Tra roedd disgyblion y Meithrin a Derbyn yn dathlu’n yr ysgol gyda gweithgareddau a disgo aeth disgyblion Blynyddoedd 1 a 2 draw i Ysgol Bro Alun a chawsom gwmni Blynyddoedd 3, 4 a 5 Ysgol Bro Alun am y dydd. Yn ystod y bore gwnaethom fwynhau cwblhau amrywiaeth o weithgareddau megis dylunio clawr CD Cymraeg newydd ac ysgrifennu adolygiad o’r gig Gwilym. Yn y prynhawn cawsom ddawnsio a chwis cyffrous i gloi’r dydd.
Roedd y disgyblion wedi ymddwyn yn ysblennydd ac wedi mwynhau dathlu #DyddMiwsigCymru 2019 ar y cyd fel ffederasiwn.
Edrychwn ymlaen at fwy o ddathliadau gyda’n ffrindiau newydd yn y dyfodol agos!
Dyma flas i chi o’r hwyl…