Gobeithio fod pawb, yn ddisgyblion, rhieni, gofalwyr a theuluoedd yn cadw’n iawn ac yn saff. Gobeithio hefyd fod y disgyblion wedi cael chydig o gyfle i wneud peth o’r gwaith a ddarparwyd cyn i’r ysgol gau ac yn ystod y bythefnos ddiwethaf. Ni fyddwn yn darparu gwaith dros y Pasg gan ei bod hi’n wyliau a fel fod pawb, yn staff a disgyblion yn cael cyfle i ymlacio cymaint a phosib a threulio amser yn mwynhau efo’r teulu yn ystod y cyfnod anodd yma. Byddwn yn edrych i ddarparu mwy o waith yn ystod yr wythnos yn cychwyn ar Ebrill yr 20fed. Mae yna daflen isod sy’n berthnasol iawn yn y sefyllfa sydd ohoni a sy’n cael eu rhannu gan ambell i ysgol ar hyn o bryd. Diolch yn fawr i chi am eich cefnogaeth barhaol a rydym yn edrych ymlaen i’ch gweld yn fuan.
We hope that everyone, pupils, parents, carers and families are keeping well and safe. We hope as well that the pupils have had a chance to do some of the work that was set before the school closed and over the last two weeks. We won’t be preparing work to do over the Easter as it is holidays and to give everyone, staff and pupils the chance to relax and spend quality time with their families during this difficult time. We will be looking to prepare some more work during the week commencing April the 20th. There is a leaflet below that is very relevant to the situation we find ourselves in at the moment and is being shared by some schools. Thank you vey much for you continued support and we look forward to seeing everyone soon.
Staff Ysgol Plas Coch
Taflen i rieni / Leaflet for parents