Gollwng yn y bore / Dropping off in the morning

O ddydd Llun ymlaen, byddwn yn dychwelyd i’r drefn gollwng plant yn y bore oedd yn bodoli cyn y pandemig (rhai nad sy’n mynychu’r clwb brecwast):

Disgyblion Meithrin, Derbyn, Bl 1 a 2 – cerdded i fyny’r prif lwybr a mynd i’r chwith o amgylch yr ysgol i ollwng wrth y dosbarth perthnasol. Rhieni / gwarchodwyr i fynd nol lawr y prif lwybr ar ol gollwng eich plentyn.

Disgyblion Bl 3, 4, 5 a 6 – rhieni i gerdded i fyny’r prif lwybr, troi i’r dde a gollwng eu plant efo staff wrth y giat ar gornel Bl 5 a 6 (llun 1)  Bydd staff yn sicrhau eu bod yn mynd at y dosbarthiadau cywir yn ystod y dyddiau cyntaf. Rhieni / gwarchodwyr i gerdded nol lawr y prif lwybr ar ol gollwng eich plentyn.

Os oes gennych blant ym Mlynyddoedd Cynnar ac Iau yr ysgol, gallwch eu cerdded o amgylch yr ysgol i’w gollwng wrth y dobarthiadau os y dymunwch neu adael i’r plant hynaf fynd at y giat wrth Bl 5 a 6.

Byddwn yn dychwelyd i gadw y giat ar waelod y llwybr yn ymyl allanfa’r maes parcio (llun 2) ar gau yn y boreau am resymau diogelwch. Bydd ar agor fel arfer yn y prynhawniau a gallwch ddefnyddio’r ddau lwybr i gyrraedd a mynd oddi ar dir yr ysgol.


From Monday onwards, we will be reverting back to dropping the children off in the mornings as they were before the pandemic (the children not attending the breakfast club):

Nursery, Reception, Years 1 and 2 – walk up the main path and continue to the left around the school to drop off by the relevant class. Parents / carers to walk back down the main path.

Years 3, 4, 5 and 6 – parents and carers to walk up the main path, turn right and leave your child with staff by the gate on the corner of Year 5 and 6 (see photo 1). During the first few days, staff will ensure that your child walks to the correct class from the gate. Parents and carers to then walk back down the main path. 

If you have siblings in the school’s younger years and older years, you can walk all of them around the school to drop them off by the classes if you wish or let the older children go to the gate by Year 5 and 6. 

As was the case before the pandemic, the gate at the bottom of the path next to the car park exit gates (see photo 2) will be closed in the mornings for safety reasons. It will be open as usual in the afternoons and you can use both paths when coming to collect your children.

Llun 1 / Photo 1

Llun 2 / Photo 2