Gala Nofio’r Urdd / Urdd Swimming Gala

Bu tim nofio’r ysgol yn cystadlu yng Ngala Nofio’r Urdd yn Nhreffynnon heddiw. Cafwyd diwrnod llwyddiannus unwaith eto eleni – mae yna linc i’r canlyniadau isod. Tybed sawl gwaith fedrwch chi weld enw’r ysgol?!

Llongyfarchiadau arbennig i Dewi Williams, Osian Lee a thim ras gyfnewid gymysg Bl 3 a 4 (Dewi, Sian, Gethin a Sophie) am ennill eu rasys; hyn yn golygu y byddant yn mynd ymlaen i gynrychioli’r ysgol yng Ngala Nofio Cymru yng Nghaerdydd fis Ionawr. Diolch yn fawr hefyd i’r rhieni a theuluoedd ddaeth i gefnogi ac i Miss Mostyn am eu gwaith yn paratoi’r tim.

The school’s swimming team had another successful day today at the Urdd Swimming Gala in Holywell – there’s a link to the results below. How many times can you see Plas Coch’s name?!

Congratulations to Dewi Williams, Osian Lee and the Year 3 and 4 mixed relay team (Dewi, Sian, Gethin and Sophie) on winning their races; this means that they will now go on to represent the school at the National Gala in Cardiff next January. Thank you to the parents and families that came to support and to Miss Mostyn for her work preparing the team. 

https://www.urdd4.org/canlyniadau/canlyniadaugweithgareddau.a5w?DG=2472&fbclid=IwAR1KJosdwAn5sjk0jdri29HLlO3jiAoaMbrJr287UlZzWFWIzjZXccT24M0