Gobeithio fod pawb yn cadw’n iach, yn ddiogel a wedi gallu mwynhau y Gwyliau Pasg. Gan fod yr ysgol yn parhau i fod ar gau ar gyfer addysg statudol, mae’r staff yn mynd i fod yn parhau i ddarparu cyfleoedd i’r disgyblion i ‘Ddysgu o Bell’. Byddwn yn ystod heddiw ac yfory yn uwchlwytho gwybodaeth am y cyfleoedd yma i’r app / safle gwe. Ond, hoffem bwysleisio mae’r hyn sy’n bwysig ar hyn o bryd yw fod pawb yn ddiogel ac yn iach a nid faint o waith mae’r plant yn eu gwblhau. Rydym yn ymwybodol ei fod yn gyfnod pan mae’n anodd ar rieni a nid ydym am roi pwysau ychwnegol arnoch. Os yw’r plant yn mynd ati i wneud rhai o’r tasgau a’r gweithgareddau, gwnewch hynny o fewn amserlen sy’n gweithio i chi fel teulu. Peidiwch a rhoi pwysau ar y plant yn ymwneud efo’r gwaith – y peth pwysig yw eu bod yn teimlo’n ddiogel ac yn cael cyfle i dreulio amser gwethfawr efo’r teulu.
We hope that everyone is keeping safe, healthy and was able to enjoy the Easter holidays. As the school continues to be closed for statutory education, the staff are going to be preparing opportunities for ‘Distance Learning’ for the pupils. During today and tomorrow, we will be uploading information about these opportunities to the app / website. But, we’d like to emphasize that what continues to be important at the moment is that everyone keeps safe and healthy not how much work is completed. We are aware that it’s possibly a difficult time for parents and we don’t wish to put any further pressure on yourselves. If the children do go to complete some of the tasks and activities, this can be done within a timetable that works for you as families. Don’t put any extra pressure on the children’s shoulders – the most important thing is that they feel safe and have the opportunity to enjoy some quality time with the family.