Diwrnod y Llyfr 2018 / World Book Day 2018

Cynhelir Diwrnod y Llyfr eleni ar ddydd Iau, Mawrth 1af. Byddwn yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi ar Fawrth 1af; felly, fel ysgol, rydym am ddathlu Diwrnod y Llyfr ar ddydd Gwener, Mawrth 9fed. Ar Fawrth 9fed, mae croeso i’r disgyblion wisgo fel cymeriad o lyfr. Beth am ddod â chopi o’r llyfr i’r ysgol ar y diwrnod? Yn ystod y dydd bydd amrywiaeth o weithgareddau i’r plant gan gynnwys cyhoeddi enillwyr cystadleuaeth #hunlyfrPlasCoch

I fod yn rhan o’r gystadleuaeth #hunlyfrPlasCoch mae angen i’r plant:

  • ddewis llyfr
  • cymryd hunlun gyda’r llyfr
  • argraffu’r llun a’i roi i’w athro/athrawes dosbarth erbyn dydd Gwener, Mawrth 2il neu anfon y llun fel atodiad neges e-bost at [email protected] (nodwch enw a dosbarth y plentyn yn y neges os gwelwch yn dda)

Bydd gwobr i’r llun gorau yn y Cyfnod Sylfaen a’r llun gorau yng Nghyfnod Allweddol 2.

 

World Book Day this year will be on Thursday, 1st March. We’ll be celebrating St. David’s Day on 1st March; therefore, as a school, we’ll be celebrating World Book Day on Friday, 9th March. On 9th March, the children are welcome to dress up as a character from a book. How about bringing a copy of the book to school on the day? During the day the children will take part in activities including announcing the winners of #bookselfiePlasCoch

To take part in the #bookselfiePlasCoch competition the children need to:

  • choose a book
  • take a selfie with the book
  • print the photo and give it to their teacher by Friday, 2nd March or send the photo as an attachment in an e-mail to [email protected] (please note the child’s name and class in the message)

There will be a prize for the best photo in the Foundation Phase and the best photo in Key Stage 2.