Diwrnod di-wisg ysgol 22/3/18 Non-uniform Day

Wrth gerdded i’r Ganolfan Tenis ar gyfer ein gwers yn ddiweddar, gweldom berson di-gartref ar ochr y ffordd. Roeddem yn teimlo’n drist iawn dros y person – roedd yn edrych yn anhapus ac yn unig iawn.

Yn dilyn hyn, aethom i siarad efo Mr Jones i weld a oedd ffordd y gallem helpu pobl digartref yn Wrecsam. Cytunom y byddem yn cynnal diwrnod di-wisg, ddiwedd y tymor hwn, i godi arian tuag at elusen sy’n helpu’r digartref yn lleol yma’n y dref. Felly dydd Iau yma, Mawrth 22ain, hoffem i’r plant ddod i’r ysgol yn eu dillad eu hunain, am gyfraniad o o leiaf £1, gyda’r arian yn mynd i helpu’r digartref yma’n Wrecsam.

While we were walking to our lesson in the Tennis Centre recently, we came across a homeless person by the side of the road. We really felt for this person – he looked very sad and lonely.

Following this, we went to see Mr Jones to ask whether there was a way we could help homeless people in Wrexham. We agreed to hold a non uniform day at the end of this term, to raise money towards a local homeless charity who work with the homeless here in the town. So this coming Thursday, March 22nd, the children can come to school in their own clothes, for a contribution of at least a £1, with the money going to help the homeless locally. 

 

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth / Thank you for your support,

Gwion Jones, Oliver Williams a Cian Jones

Blwyddyn 3