Mae’r ysgol wedi cystadlu eleni yng nghystadleuaeth Carol yr Wyl. Mae hon yn gystadleuaeth sy’n cael ei chynnal yn flynyddol gan S4C i gyfansoddi a pherfformio carol wreiddiol. Cawsom wybod ychydig wythnosau yn ol fod yr ysgol wedi cyrraedd y 10 uchaf. Bu cwmni teledu yn yr ysgol ac yn eglwys San Silyn yn ddiweddar yn ffilmio’r plant yn canu’r garol a byddant yn ymddangos ar y teledu ar raglen Prynhawn Da ar S4C rhwng 2:00pm a 3:00pm, dydd Mawrth yma, Rhagfyr 5ed ac yna mewn rhaglen arbennig o Carol yr Wyl ar Ragfyr 22ain. Cofiwch wylio i’n cefnogi!
The school has competed this year in ‘Carol yr Wyl’, an annual competition run by S4C to compose and perform an original carol. We were informed recently that we have made the top 10. A few weeks ago, a television company visited the school and St Giles Church to film the children singing the carol and they will be appearing on ‘Prynhawn Da’ on S4C, this coming Tuesday, December 5th between 2:00pm and 3:00pm and then again on December 22nd in a special ‘Carol yr Wyl’ programme. Hope you can tune in to support us!