Bŵmbocs – Dydd Miwsig Cymru / Boombox – Welsh Language Music Day

Nid #DyddMiwsigCymru yw hi ond Wythnos Miwsig Cymru yn Ysgol Plas Coch eleni!  Os oeddech chi’n ardal Rhosddu bore Mawrth, Chwefror 5ed, mae’n bosib i chi glywed twrw mawr.  Wel, Bŵmbocs ar fuarth yr ysgol oedd yn cadw’r sŵn!  Fel rhan o ddathliadau Dydd Miwsig Cymru eleni, roedd Llywodraeth Cymru wedi gwahodd ysgolion ledled y wlad i ysgrifennu cais yn nodi pam bod yr ysgol yn haeddu derbyn ymweliad gan Bŵmbocs.  Aeth y Llysgenhadon Iaith ati i ysgrifennu cais ac ychydig o wythnosau yn ddiweddarach daeth y newyddion gwych bod y cais yn llwyddiannus.  Roedd yr ysgol wedi ei dewis fel un o ddeg ysgol wedi i’r Llywodraeth dderbyn dros 150 cais!  Roedd y disgyblion wedi gwirioni â’r Bŵmbocs a chael dawnsio tu allan i gerddoriaeth Gymraeg.  Daeth Seren a Sbarc draw i gael ymuno yn yr hwyl yn ogystal!

 

It’s not #WelshLanguageMusicDay but Welsh Language Music Week here at Ysgol Plas Coch this year.  If you were in the Rhosddu area on Tuesday, February 5th, you might have heard music blaring.  Well, it was a Boombox at Ysgol Plas Coch as the school yard was transformed into a dance floor!  As part of this year’s Welsh Language Music Day celebrations, the Welsh Government had invited schools throughout the country to write an application stating why the school deserved a visit from a Boombox.  Our Welsh Language Ambassadors wrote an application and a few weeks later we received the great news that the application was successful.  The school was chosen as one of only ten schools out of over 150 entries!  The pupils loved dancing outside to Welsh music.  Seren and Sbarc came along to join in the fun too!