Adroddiad Arolwg Estyn / Estyn Inspection Report

Gobeithio fod pawb yn iawn ac yn mwynhau’r gwyliau haf.
Mae adroddiad arolwg Estyn o’r ysgol, a gynhaliwyd ganol mis Mehefin, wedi cael ei gyhoeddi heddiw. Isod, mae dolen at yr adroddiad ar safle Estyn.
Fel y gwelwch o’i ddarllen, mae hwn yn adroddiad arolwg arbenning o dda ac yn un yr ydym i gyd fel ysgol yn falch ohono. Mae’n adlewyrchu gwaith caled yr holl staff, disgyblion a rhieni a gwarchodwyr nid yn unig yn ystod cyfnod yr arolwg, ond dros y blynyddoedd diwethaf.
Rydym yn hynod o falch fod cyfeiriad penodol yn cael ei wneud at, ymysg agweddau eraill, ymddygiad da y disgyblion, eu hagwedd a’u brwdfrydedd at waith, y cynnydd a wna disgyblion, safon yr addysgu ar draws yr ysgol ac at profiadau dysgu mae’r disgyblion yn eu cael o’r cwricwlwm eang a chyfoes a gyflwynir gan yr ysgol.
Mae yna drosolwg byr ar ddechrau’r adroddiad, dau argymhelliad yn deillio o’r arolwg i ni weithio arnynt ac yna 5 adran sy’n cynnwys mwy o fanylder sef Dysgu, Lles ac Agweddau at Ddysgu, Addysgu a Phrofiadau Dysgu, Gofal, Cymorth ac Arweiniad ac yn olaf Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
Angogaf chi i ddarllen yr adroddiad pan gewch chi gyfle ac os oes gennych unrhyw gwestiwn neu sylw, mae croeso i chi gysylltu efo fi.
Diolch,
Osian Jones
Estyn have today published their report on the school following the inspection that took place in mid June. There is a link below to the report on Estyn’s website.
 
As you’ll see from reading it, this is an excellent inspection report and one that as a school, we are very proud of. It reflects the hard work of staff, pupils and parents and carers over the last few years.
 
We are very happy to see specific reference being made (amongst other positive aspects) about the pupils’ good behaviour, their attitude and enthusiasm towards their work, the progress pupils make and also the learning experiences that the pupils get as part of a broad and contemporary curriculum that is offered by the school.
 
There is a short overview of the school at the beginning of the report, followed by two recommendations for us to work on and then five more detailed sections on Learning, Well-Being and Attitudes to Learning, Teaching and Learning Experiences, Care, Support and Guidance and Leadership and Management.
 
I encourage you to read the report when you get a chance and if you have any questions or comments, please get in touch.
With thanks,
Osian Jones