Ar ddiwedd y tymor, bydd y staff canlynol yn gadael yr ysgol / At the end of this term, the following staff will be leaving the school:
Mr Jake Phillips – mae Mr Phillips wedi bod yn athro ar ddosbarth Glyndwr tra bod Miss Hanna Roberts ar gyfnod mamolaeth. Rydym yn ddiolchgar iawn i Mr Phillips am ei waith dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn dymuno’r gorau iddo ar ei swydd newydd yn Ysgol Gwernant, Llangollen ym mis Medi.
Mr Phillips has been a teacher in Glyndwr class covering Miss Hanna Roberts’ maternity leave. We are very grateful to Mr Phillips for his work over the last year and wish him well in his new job at Ysgol Gwernant in Llangollen.
Mrs Nicola Edwards – Mae cyfnod Mrs Edwards fel cymhorthydd yn dod i ben wedi 16 o flynyddoedd yn yr ysgol. Mae Mrs Edwards wedi bod yn gweithio fel cymhorthydd mewn gwahanol ddosbarthiadau, fel cymhorthydd 1 i 1, yn arwain yr Hafan ac yn y Clwb ar ol Ysgol. Byddwn i gyd, yn staff a disgyblion yn colli ei chwmni a’i phersonoliaeth yn fawr iawn a rydym yn dymuno’r gorau iddi ar ei menter newydd.
Mrs Edwards has been working at the school as a Teaching Assistant for 16 years. She has worked in various classes, been a 1 to 1 TA, led the ‘Hafan’ and worked in the After School Club. Everyone, staff and pupils alike will miss her company and bubbly personality very much and wish her all the best in her new venture.
Mrs Eleri Owens – Yn dilyn dros 23 mlynedd yn gweithio yn yr ysgol fel ysgrifenyddes / swyddog gweinyddol bydd Mrs Owens yn ymddeol ar ddiwedd y tymor. Mae Mrs Owens wedi bod yn aelod gwerthfawr o staff yr ysgol dros y blynyddoedd ac y person a’r llais cyntaf mae nifer o rieni ac ymwelwyr yn ei gweld a chlywed wrth gysylltu. Mae natur y swydd wedi newid llawer dros y blynyddoedd a mae Mrs Owens wedi ymgymryd â’r newidiadau yn arbennig gan gyflawni’r gwaith yn effeithiol ac effeithlon. Bydd yna golled fawr ar ei hôl, bydd pawb sy’n ymwneud â’r ysgol yn ei methu a rydym yn dymuno’r gorau iddi ar ei hymddeoliad.
After 23 years of working as the school’s secretary / admin officer, Mrs Owens will be retiring at the end of the term. Mrs Owens has been a valuable member of the school staff over the years and the first point of contact for parents and visitors to the school and on the phone. The nature and demands of her work have changed a lot over the years and Mrs Owens has embraced these changes and completed the role effectively and efficiently. She will be missed by all connected to the school and we wish her the very best on her retirement.









