Bwydlen ginio newydd / New lunch menu

Neges bwysig isod gan Prydau Ysgol Wrecsam am newidiadau i’r fwydlen ginio o 15:06:26 ymlaen. Mae copi o’r fwydlen newydd ar waelod y neges. 

Important information below from Wrexham’s Schools Meals regarding changes to the lunch menu from 15:06:26. There’s a copy of the new menu at the end of the message.

Bydd gennym fwydlen 2 wythnos newydd yn dechrau ym mhob un o’n hysgolion cynradd o ddydd Llun 15/06/26.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth newydd yn ymwneud â bwyd sy’n cael ei weini mewn ysgolion cynradd, a bydd yn orfodol i bob darparwr prydau ysgol gydymffurfio erbyn mis Hydref 2026.   Rydym wedi symud tuag at gydymffurfio â’n bwydlen newydd eisoes, trwy wneud nifer o newidiadau gofynnol.  Y prif newidiadau y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt o 15 Mehefin yw:

  • Dim brechdanau ham ar gael, dim ond brechdanau caws neu tiwna ar ddydd Mawrth a dydd Iau.   Bydd cyfyngiad ar y nifer o gynhyrchion cig wedi’u prosesu y gallwn eu cynnig.
  • Bydd bara yn 50:50, o ran y bara wedi’i sleisio a roliau byrgyrs, i gynyddu  ffibr i ddisgyblion.
  • Bydd pasta yn basta gwenith cyflawn nid pasta gwyn, eto i gynyddu ffibr.
  • Bydd reis yn 50:50 brown a gwyn.
  • Ni fyddwch yn gallu dewis opsiwn “dim llysiau” wrth archebu ymlaen llaw gyda ParentPay, bydd yn rhaid i ni weini 2 ddogn o lysiau gyda phob pryd ysgol cynradd o dan y rheoliadau newydd.
  • Bydd yn rhaid gweini ffrwythau – tun neu ffres – ochr yn ochr â phob dewis pwdin.

Bydd yn dal yn ofyniad cyfreithiol arnom i ddarparu opsiynau prydau diogel ac addas i ddisgyblion ag alergeddau a gofynion dietegol arbennig, gan gynnwys Anhwylderau  Osgoi/Cyfyngu ar Fwydydd, ond bydd angen cadarnhad arnom gan weithiwr proffesiynol cymwys priodol, fel meddyg teulu neu ddietegydd.

Os hoffech drafod unrhyw bryderon, anfonwch e-bost at [email protected].

We will have a new 2-week menu starting in all of our primary schools from Monday 15/06/26.

Welsh Government are introducing new legislation covering food served in primary schools, and it will be compulsory for all school meal providers to be compliant by October 2026.  We have moved towards compliance already with our new menu, by making a number of necessary changes.  The main changes that you need to be aware of from 15th June are:

  • No ham sandwiches available, only cheese or tuna sandwiches on Tuesdays and Thursdays.  We will be limited to the number of processed meat products we can offer.
  • Bread will be 50:50, sliced bread and burger baps, to increase fibre intake for pupils.
  • Pasta will be wholewheat not white, again to increase fibre.
  • Rice will be 50:50 brown and white.
  • You will not be able to choose a “no vegetables” option when pre-ordering with ParentPay, we will have to serve 2 vegetables with every primary pupils’ meal under the new regulations.
  • Fruit – tinned or fresh – will have to be served alongside every dessert choice.

We will still be legally obliged to provide safe, suitable meal options for pupils with allergies and special dietary requirements, including Avoidant / Restrictive Food Intake Disorders, however we will need confirmation from a suitably qualified professional, such as a GP or dietitian.

If you would like to discuss any concerns please email [email protected]

Bwydlen Cynradd 2026 – 2027

Primary Menu 2026 – 2027