Cyflwynwyd siec o £2000 i’r ysgol yn ddiweddar gan Mrs Margaret Jones, er cof am ei diweddar wr Roger. Mae Margaret wedi bod yn lywodraethwraig ar yr ysgol ers ei hagor yn 1993 ac ynghyd a Roger, wedi bod yn gefnogol iawn o’r ysgol dros y blynyddoedd. Dymuniad y teulu oedd fod cyfraniadau er cof am Roger yn cael eu rhannu rhwng Ysgol Plas Coch ac Ysgol Y Berllan Deg yng Nghaerdydd. Rydym yn hynod o ddiolchgar i’r teulu am eu caredigrwydd. Yn y llun, fe welwch y siec yn cael ei chyflwyno i’r ysgol gan Margaret a’i hwyrion, Steffan a Huw.
A cheque for £2000 was recently presented to the school by Mrs Margaret Jones in memory of her late husband, Roger. Margaret has been a governor at the school since it opened in 1993 and along with Roger, has always been very supportive of Plas Coch over the years. It was the family’s wishes that donations in memory of Roger were shared between Ysgol Plas Coch and Ysgol Y Berllan Deg in Cardiff. We are very grateful to the family for their kindness. In the photo, Margaret and her grandsons, Steffan and Huw can be seen presenting the cheque to the school.










