Neges gan y gwasanaeth cinio ysgol / Message from the school meals service

This is a bilingual message – please scroll down for English.

Neges ddwyieithog yw hon – sgroliwch lawr ar gyfer y Saesneg.

Annwyl Rieni,

Rydym yn falch bod cymaint ohonoch chi wedi bod yn manteisio ar Brydau Ysgol am Ddim i holl blant ysgolion cynradd, gan ei fod bellach wedi cael ei gyflwyno i bob plentyn ysgol gynradd yn Wrecsam.

Gan fod eich plentyn wedi bod yn ôl yn yr ysgol ers ychydig wythnosau bellach, roeddem eisiau gadael i chi wybod fod modd i chi archebu pryd eich plentyn dair wythnos ymlaen llaw ac rydym ni’n gobeithio bod hyn yn gwneud pethau’n haws i chi.  Er mwyn osgoi siom, dyma ychydig o bethau y mae angen i chi eu cofio:

  • rhaid archebu erbyn 8am
  • ni ellir diweddaru’r rhestr o blant sydd wedi archebu pryd ysgol ar ôl 8am, felly os nad ydych chi wedi archebu pryd, bydd yn rhaid i’ch plentyn ddod â chinio parod

**Lleihau gwastraff ac arbed arian**

Rydym yn gofyn yn garedig os ydych chi wedi archebu pryd i’ch plentyn ac yna’n newid eich meddwl, a wnewch chi ganslo’r archeb cyn 8am ar y diwrnod.

Mae’r nifer o brydau sy’n cael eu paratoi bob diwrnod wedi’u seilio ar y nifer o archebion a dderbynnir, felly os ydych chi’n archebu pryd, ond yn rhoi cinio parod i’ch plentyn, bydd y bwyd yn cael ei wastraffu.

Os byddwch chi’n canslo’r pryd cyn 8am, fe allwn ni osgoi gwastraffu bwyd ac arian.

**Ydi eich plentyn yn mynd ar daith ysgol?**

Mae’r galw am becynnau bwyd yn cynyddu’n fawr pan fydd teithiau ysgol wedi cael eu cynllunio, ac mae’r cogyddion angen digon o rybudd er mwyn archebu’r eitemau angenrheidiol.

Os bydd eich plentyn i fod i fynd ar daith ysgol, archebwch y dewis brechdanau ar ParentPay cyn gynted â phosibl ymlaen llaw os hoffech i becyn bwyd gael ei drefnu ar gyfer taith ysgol eich plentyn.

Rydym yn gofyn am yr archebion hyn wythnos ymlaen llaw pan fo’n bosibl i sicrhau bod digon o lenwadau brechdanau, ffrwythau a diodydd ar gael.

Dear parents,

We are pleased to see that many of you have been taking advantage of Universal Primary Free School meals, now that it has been rolled out to all primary school children in Wrexham.

Now your child has been back in school for a few weeks, we wanted to let you know that you are able to book your child’s meal three weeks in advance and we hope this makes easier for you. To avoid disappointment, here are a couple of changes that you need to remember:

  • orders need to be placed by 8am
  • the list of children who have ordered a school meal cannot be updated after 8am so if you haven’t ordered a meal, your child will need to bring a packed lunch

**Reduce waste and save money**

We kindly ask that if you have ordered a meal for your child and change your mind, please cancel the order before 8am on the day.

The number of meals that are prepared each day is based on the number of orders received, so if you order a meal, but give your child a packed lunch, food will go to waste.

If you cancel the meal before 8am we can avoid wasting food and money.

**Is your child going on a school trip?**

Demand for packed lunches increases greatly when school trips are planned, and cooks need sufficient notice to order in the necessary items. 

If your child is due to be on a school trip, please book the sandwich option on ParentPay as far in advance as possible if you would like a packed lunch to be prepared for your child’s school trip. 

We ask for these bookings a week in advance, where possible, to ensure the correct levels of sandwich fillings, fruit and drinks are available.